Pryder pennaeth ysgol am wrthwynebiad i'w safle newydd
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth ysgol yn Llanelli yn dweud y gallan nhw golli £9m mewn cyllid os yw ymgyrch yn erbyn safle newydd yr ysgol yn llwyddiannus.
Mae rhai pobl leol yn gwrthwynebu symud Ysgol Dewi Sant i gaeau Llanerch oherwydd pryder am golli ardaloedd gwyrdd.
Ond yn ôl Ann Clwyd Davies, mae'r safle newydd wedi cael ei ddewis "yn ofalus iawn iawn".
Dywedodd Cyngor Sir Gâr y byddai'r arian yn cael ei drosglwyddo i brosiect arall os ydy'r cynlluniau'n cael eu gwrthod.
Mae 450 o ddisgyblion yn yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ar Goedlan Bryndulais yn y dref.
Fe fyddai'r cyfleusterau newydd ar gaeau Llanerch yn cael eu hariannu gan dros £9m o gronfa Ysgolion y 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
"'Dan ni'n awyddus iawn i symud yna ac yn pryderu os nad ydy'r arian yn cael ei wario ar y tir yma, sydd wedi cael ei ddewis yn ofalus iawn iawn, [yna] gollwn ni'r arian a bydd o'n mynd 'mlaen at ryw brosiect arall," meddai Ms Davies.
Dywedodd bod "diffygion" yn safle presennol yr ysgol, a byddai angen gwario "o leiaf" £500,000 i'w adnewyddu. Mae'r ysgol ar hyn o bryd yn defnyddio rhai stafelloedd dosbarth dros dro.
Yn ôl un rhiant a llywodraethwr, mae angen mwy o arweiniad gwleidyddol i fynd â'r maen i'r wal.
"Dwi'n credu bod eisiau mwy o arweiniad gwleidyddol cryf i wneud be' sydd orau i'r plant", meddai Aled Owen.
Mae gwrthwynebwyr wedi codi pryderon am golli ardaloedd gwyrdd yn Llanelli yn sgil y datblygiad, yn ogystal ag ofnau bod tanciau dŵr o dan y caeau ar safle'r ysgol newydd.
Ond yn ôl Mr Owen, mae'r gwrthwynebiad "ar seiliau gwag, yn wallus, ac wedi cael ei wneud er mwyn atal datblygiad sy'n addas".
Mae'r ymgyrchwyr wedi rhoi cais am statws arbennig i'r caeau fel adnodd i'r gymuned.
Yn ôl cynghorydd sydd wedi bod yn lleisio pryderon ar ran nifer o'r gwrthwynebwyr, mae angen i'r penderfyniad "gael ei wneud yn iawn".
"Bydd y penderfyniad yma yn para am tua 60 mlynedd, ac mae'n rhaid ystyried pob opsiwn posib", meddai Rob James.
Dywedodd Mr James bod y cyngor wedi edrych ar "ardal fach iawn" ar gyfer safleoedd posib - er bod naw cynllun gwahanol wedi cael eu hystyried.
Gwadodd hefyd bod yr ymgyrchwyr yn rhoi gwleidyddiaeth o flaen anghenion disgyblion.
Mae'r cyngor sir wedi cadarnhau y byddai'r arian yn mynd i brosiectau eraill pe bai'r cynlluniau'n cael eu gwrthod.
Mae'r cyfnod ymgynghori ar y cynlluniau yn dechrau dydd Mercher ac yn para tan 11 Hydref.