Tata a Thyssenkrupp wedi cytuno ar gam cyntaf cytundeb
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni dur o'r Almaen, Thyssenkrupp, a chwmni dur Tata wedi cyhoeddi eu bod wedi cytuno ar gam cyntaf y broses o uno'r ddau gwmni.
Mae'r cwmnïau wedi bod mewn trafodaethau ers y llynedd, pan dynnodd Tata allan o'r broses gyda'r bwriad o werthu ei holl safleoedd yn y DU.
Mae safleoedd Tata yn cynnwys Port Talbot - y gwaith dur mwyaf yn y DU.
Dywedodd undeb Community eu bod eisiau sicrwydd i weithwyr dur, tra bod llefarydd ar ran Tata wedi dweud bod y cyhoeddiad yn gam i "adeiladu dyfodol" Tata yn Ewrop.
Trafferth pensiynau
Mae cynllun pensiwn £15bn Tata wedi bod yn fan tramgwydd yn ystod trafodaethau.
Mae'r newydd yn dilyn cytundeb gyda gweithwyr a chefnogaeth y rheoleiddwyr pensiynau, sy'n golygu nad oes gan Tata gymaint o rwymedigaethau pensiwn bellach.
Mae'r datblygiadau gyda phensiwn y gweithwyr wedi gwneud cytundeb yn fwy tebygol rhwng y ddau gwmni.

Mae cwmni Tata yn cyflogi 7,000 o weithwyr yng Nghymru, gan gynnwys 4,000 ar y safle ym Mhort Talbot.
Mae disgwyl bydd 4,000 o swyddi yn cael eu colli yn sgil y bartneriaeth, hanner o'r ochr weinyddol a'r hanner arall o waith cynhyrchu.
'Angen ymrwymiad a buddsoddiad'
Wrth ymateb i'r cytundeb ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru dywedodd Alun Llywelyn, sy'n gynghorydd sir yng Nghastell-nedd Port Talbot, ei fod yn croesawu'r bartneriaeth ond mae hefyd yn galw am fwy o fanylion.
"Yn sicr mae'n gam ymlaen i egluro'r berthynas rhwng Tata a Thyseenkrupp achos ni'n gwybod bod llawer iawn o drafodaethau wedi digwydd rhwng y ddau gwmni," meddai.
"Ond mae angen llawer mwy o wybodaeth am y cynllun busnes ar gyfer y dyfodol.
"Mae angen ymrwymiad a buddsoddiad yng ngwaith dur Tata yma ac yng ngweddill Prydain ac eglurder am y swyddi.
"Be' ni ddim am ei weld ydi rhyw fath o asset stripping."

Pwy yw Thyssenkrupp?
Fe gafodd Krupp ei sefydlu yn Yr Almaen dros 200 mlynedd yn ôl, a Thyssen yn 1870. Fe wnaeth y ddau gwmni uno yn 1999;
Mae'r grŵp yn cyflogi 155,000 o bobl mewn 80 gwlad ar draws y byd;
Mae gan eu cangen Ewropeaidd 27,000 o weithwyr ac yn cynhyrchu 13m tunnell o ddur crai pob blwyddyn;
Mae sibrydion wedi bod ynglŷn â chytundeb gyda Tata ers Gorffennaf 2016.

'Chwilio am sicrwydd'
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb Community, Roy Rickhuss mai eu blaenoriaeth fyddai chwilio am sicrwydd i'r gweithwyr.
"Fe fyddwn yn rhoi pwysau ar Tata i ddangos eu hymrwymiad i gynhyrchu dur yn y DU gan gadarnhau y byddan nhw'n buddsoddi yn ffwrnais rhif pump ym Mhort Talbot," meddai.
"Mae rhaid hefyd cael sicrwydd na fydd gweithwyr yn y DU yn ariannu pensiynau yn Yr Almaen.
"Rydym yn bwriadu cael cyfarfod brys gyda Tata er mwyn deall eu bwriad ar gyfer y DU yng nghyd-destun y bartneriaeth."
Mae Andrew Robb o Tata Steel Ewrop wedi dweud bod y cyhoeddiad yn gam i "adeiladu dyfodol ar gyfer gweithgareddau dur Tata yn Ewrop sy'n gynaliadwy ym mhob ystyr y gair".