Mwy o fflatiau ym Mae Caerdydd yn methu prawf cladin
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg bod cladin ar floc arall o fflatiau yng Nghaerdydd wedi methu profion tân yn dilyn tân Tŵr Grenfell.
Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn bryderus am y canlyniadau ar gladin fflatiau Quayside ar Bute Place ym Mae Caerdydd.
Cafodd deunydd alwminiwm cyfansawdd ei ddefnyddio ar y fflatiau sydd dan berchnogaeth breifat - deunydd sydd wedi bod yn destun ymchwiliad ers trychineb Grenfell.
Mae Bellway, y cwmni adeiladodd y 79 o fflatiau, wedi dweud y bydd yn adolygu'r dyluniad.
Mae cladin ar fflatiau yn , dolen allanol ac eraill yng Nghasnewydd hefyd wedi methu profion wedi Grenfell.
'Ymwybodol a phryderus'
Dywedodd y cwmni sy'n rheoli'r bloc o fflatiau bod y cladin ar un ochr o'r adeilad.
Mae Cyngor Caerdydd wedi dweud eu bod yn "ymwybodol ac yn bryderus" am y profion, a bod y "cyfrifoldeb am ddiogelwch unrhyw adeiladau yn amlwg yn fater i berchennog y datblygiad".
Ychwanegodd y llefarydd bod y cyngor wedi "cynnig cefnogaeth" ac yn bwriadu "ystyried y camau priodol" i'w cymryd.
Bellway Homes wnaeth adeiladu'r bloc, yr un cwmni oedd yn gyfrifol am adeiladu fflatiau yn Prospect Place.
Dywedodd llefarydd nad oedd y cwmni yn berchen y safle bellach, ond eu bod yn "cefnogi ac yn darparu unrhyw wybodaeth sydd ei angen ar y rheolwyr sy'n gyfrifol am yr adeilad".
Ychwanegodd y llefarydd bod y cwmni'n "falch" o'r datblygiad, ond yn "derbyn bod pryder erbyn hyn am benderfyniadau'r diwydiant a'r rheoleiddwyr ar y pryd".
Dywedodd y rheolwyr, Warwick Estates, bod mesurau mewn grym sy'n unol â chyngor gan Lywodraeth y DU wedi Grenfell.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Awst 2017