Cladin ar chwe bloc yn methu profion diogelwch tân
- Cyhoeddwyd
Mae'r cladin ar chwe bloc o fflatiau ar safle preifat ym Mae Caerdydd wedi methu profion diogelwch tân.
Mae mesurau rhag ofn yn cael eu cymryd yn Prospect Place yn dilyn y profion ddaeth yn sgil trychineb Tŵr Grenfell.
Dywedodd cwmni Warwick Estates, sy'n rheoli'r safle, bod trigolion yn cael gwybod am bob datblygiad.
Dyma'r datblygiad preifat cyntaf yng Nghymru sy'n bendant heb basio'r profion.
Cafodd datblygiad Prospect Place ei godi gan gwmni Bellway Homes. Cafodd ei atal am gyfnod wedi dirwasgiad ariannol 2008, ond mae bellach yn cynnwys 15 bloc o fflatiau.
Yn ôl Cyngor Caerdydd fe wnaeth cladin gafodd ei wneud o ddeunydd alwminiwm (ACM) fethu profion gafodd eu cyflwyno gan lywodraeth y DU.
Dywedodd un o gyfarwyddwr Warwick Estates, Sarah Williams wrth BBC Cymru mai'r blociau sydd wedi methu'r profion yw Alderney House, Caldey Island House, Breakwater House, Dovercourt House, Eddystone House a Pendeen House.
Dyw asesiad o'r system gladin gyfan heb gael ei gwblhau hyd yma. Dyma'r prawf a fethwyd gan dri bloc o fflatiau yng Nghasnewydd yn gynharach eleni.
Mwy o brofion
Pan ofynnwyd a fydd y cladin yn cael ei newid, dywedodd Ms Williams na fydd penderfyniad tan y bydd yr holl brofion wedi eu gwneud a'r canlyniadau yn wybyddus.
Mae'r trigolion wedi derbyn llythyr yn eu hysbysu am y profion a fethwyd sy'n cynnwys nifer o argymhellion a rhybuddion.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi argymell cau naw ardal i barcio ceir sydd o dan rannau o'r adeilad sydd â chladin arnyn nhw, ac mae deunydd llosgadwy wedi cael ei symud o ardal gymunedol.
Cafodd trigolion wybod na fyddan nhw'n cael defnyddio barbiciws nag offer tebyg, ac na ddylid defnyddio peiriannau sychu dillad dros nos.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd ei fod yn "ymwybodol a phryderus" am y profion a fethwyd, a dywedodd llefarydd ar ran Bellway Homes eu bod hefyd yn "ymwybodol o'r profion ar y cladin yn Prospect Place".
Ychwanegodd fod Bellway yn cefnogi Warwick Estates "i gwrdd â gofynion llywodraeth a'r frigâd dân i sicrhau diogelwch trigolion", a bod mesurau diogelwch "wedi cael eu cyflwyno yn y tymor byr" tra bod asesiadau pellach yn cael eu cwblhau ar ba gamau pellach y dylid eu cymryd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi annog landlordiaid preifat o flociau fflatiau i fanteisio ar y cynnig o brofion wedi trychineb Tŵr Grenfell.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2017