Trafod cosbau llymach am ymosod ar staff gwasanaethau brys

  • Cyhoeddwyd
AmbiwlansFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Iwerddon
Disgrifiad o’r llun,

Ffenest flaen ambiwlans yng Ngogledd Iwerddon gafodd ei chwalu gan silindr ocsigen

Bydd rhoi cosbau llymach i'r rheiny sy'n ymosod ar staff 999, drwy ddeddf newydd posib gan AS o Gymru, yn cael ei drafod ddydd Gwener.

Mae Chris Bryant wedi galw am ddyblu uchafswm y ddedfryd ar gyfer ymosodiad cyffredin yn erbyn gweithwyr y gwasanaethau brys, o chwe mis i flwyddyn.

"Mae'n rhaid i ni sefyll gyda nhw achos maen nhw'n sefyll gyda ni," meddai AS Rhondda.

Dywedodd y Gweinidog Plismona, Nick Hurd fod y llywodraeth yn "gefnogol iawn" i egwyddorion y bil.

Poeri yn drosedd

Fe wnaeth Mr Bryant ofyn i'w etholwyr ddewis un o chwe mesur posib y byddai'n cyflwyno er mwyn ceisio ei wneud yn ddeddf.

Byddai'r ddeddfwriaeth yn berthnasol ar gyfer ymosodiadau ar yr heddlu, swyddogion carchar, swyddogion gwarchodaeth, swyddogion tân, gweithwyr chwilio ac achub, a rhai staff iechyd gan gynnwys gweithwyr ambiwlans.

Fe fyddai'r ffaith fod y dioddefwr yn weithiwr i'r gwasanaethau brys yn golygu fod y mater yn cael ei ystyried yn un fwy difrifol pan mae'n dod at drais cyffredin, achosi niwed corfforol, ac achosi niwed corfforol difrifol.

Byddai'r ddeddf hefyd yn golygu bod hawl cymryd sampl gwaed gan bobl sydd wedi poeri ar neu frathu staff 999, a bod gwrthod gwneud hynny heb reswm da yn drosedd.