Prinder nyrsys yn golygu cau mwy o welyau yn y gogledd?
- Cyhoeddwyd
Mae peryg y bydd yn rhaid cau mwy o welyau mewn ysbytai cymunedol yn y gogledd oherwydd prinder nyrsys, yn ôl y Cyngor Iechyd Cymuned lleol.
Daw'r rhybudd ar ôl i'r CIC - sy'n craffu ar waith Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - gynnal gwaith ymchwil yn ysbytai cymunedol y rhanbarth.
Ar ymweliadau dirybudd â'r 14 safle'n gynharach eleni gwelodd y CIC nad oedd modd defnyddio 81 o'r cyfanswm o 517 o welyau ar y wardiau.
Prinder nyrsys
Mewn cyfweliad gyda rhaglen O'r Senedd ar S4C dywedodd Menna Llewellyn Williams o Gyngor Iechyd Cymuned ardal Betsi Cadwaladr: "Rhai o'r prif bethau ni wedi ffeindio yw bod yna wahaniaeth rhwng nifer y gwlâu sy'n bodoli a'r rhai sydd mewn defnydd".
"A 'da ni'n ffeindio mewn rhai llefydd - mewn ysbytai mwy newydd - bod rhai gwlâu byth wedi cael eu hagor.
"'Da ni'n bryderus bod ni'n ffeindio bod gwlâu yn gorfod cael eu cau oherwydd prinder nyrsys.
"Mae yna beryg gwelwn ni bod gwlâu yn cau yn y tymor byr a tymor canolig tra bod dim digon o nyrsys.
"Fedrwch chi ddim agor gwely heb fod gynnoch chi nyrs i edrych ar ôl y claf.
"Wedyn mae peryg, fydd yna gyfnodau pan mae gwlâu'n gorfod cael eu cau, oherwydd bod 'na ddim digon o nyrsys i ofalu amdanynt."
Oedi
Ar eu hymweliadau fe edrychodd y CIC hefyd ar yr oedi sy'n gallu digwydd wrth drosglwyddo gofal am glaf.
Gwelwyd bod 66 o welyau mewn ysbytai cymunedol ar draws y gogledd yn cael eu defnyddio gan gleifion oedd yn barod i adael yr ysbyty.
Roedd un claf yn Ysbyty'r Waun wedi bod yn aros am 145 o ddiwrnodau i gael ei ryddhau.
Mewn cyfweliad gyda'r un rhaglen dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ogledd Cymru, Llyr Gruffydd bod y ffigyrau'n "bryder eithriadol".
"Falle bod y gwaith ymchwil ddim mor wyddonol ag y bydde rhywun yn ei ddymuno. Ond yn sicr mae e'n rhoi darlun i ni o fel mae pethau ar y ffas lô a mae e'n arwydd clir nad yw'r system yn gweithredu fel ag y dylai hi," meddai.
"Ddyle neb fod yn aros hyd at bum mis i gael ei adleoli i'r gymuned o'r ysbyty cymunedol pan maen nhw'n barod i symud.
"Dyw hynny ddim yn dderbyniol."
Cydweithio agos
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Gall oedi wrth drosglwyddo gofal ddigwydd am nifer o resymau, yn cynnwys cleifion yn aros am leoliadau mewn cartrefi gofal arbenigol a chleifion yn aros am leoliad o'u dewis.
"Mae ein hysbytai a thimau iechyd meddwl yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y gymuned a gwasanaethau cymdeithasol i gefnogi trosglwyddo cleifion yn brydlon o'r ysbyty i leoliad cymunedol sy'n agos i'w cartrefi, gofal preswyl neu nyrsio neu i gefnogi cleifion yn eu cartrefi eu hunain."
Mae Llywodraeth Cymru, sy'n parhau i reoli Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, wedi codi amheuon am ddibynadwyedd y gwaith ymchwil a dywedodd llefarydd: "Mae gan Betsi Cadwaladr y nifer uchaf o bobl dros 75 oed yng Nghymru, sy'n gosod galw aruthrol ar wasanaethau.
"Er gwaethaf hyn, o ganlyniad i'r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad yn ein gwasanaeth iechyd, mae perfformiad achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn ardal Betsi Cadwaladr wedi gwella o lawer.
"Mae'r Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau nad oes angen i gleifion aros yn yr ysbyty yn hirach nag sy'n angenrheidiol."
'Her ar draws y DU'
Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi yn, a chefnogi, ein nyrsys. Mae recriwtio nyrsys yn her ar draws y DU a dyw Betsi Cadwaladr yn ddim gwahanol.
"Maen nhw'n recriwtio nyrsys gyda chefnogaeth ein hymgyrch genedlaethol Hyfforddi, Gweithio, Byw, sydd â rhan benodol am nyrsio. Ochr yn ochr â hyn, rydym yn parhau i fuddsoddi i addysgu a hyfforddi nyrsys ar draws Cymru.
"Mae ein buddsoddi o £95m - sy'n record - mewn hyfforddiant sydd ddim yn feddygol a gyhoeddwyd yn gynharach eleni wedi arwain at y nifer uchaf erioed o nyrsys yn hyfforddi yng ngogledd Cymru am y deng mlynedd diwethaf."
O'r Senedd, 22:00 nos Fawrth ar S4C ac ar yr iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2014