25% yn llai o welyau ysbytai cymunedol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith ymchwil gan BBC Cymru yn dangos bod nifer y gwelyau mewn ysbytai cymunedol wedi gostwng o 25% yn y bum mlynedd diwethaf.
Dros yr un cyfnod, dim ond un bwrdd iechyd sydd wedi cyrraedd targedau ynglŷn â chynyddu nifer y staff sy'n gweithio yn y gymuned.
Mae nifer o ysbytai cymunedol wedi cau yn ddiweddar, gan gynnwys Ysbyty Aberteifi, Ysbyty Mynydd Mawr, Ysbyty Blaenau Ffestiniog, Ysbyty Gellinudd ag Ysbyty Fflint. Mae nifer yn poeni bod colli'r gwelyau yma yn effeithio ar y gofal sydd ar gael i gleifion.
Yn ôl y byrddau iechyd, mae nifer o wasanaethau wedi eu cynnig yn lle, ac mae disgwyl i lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion cynllun i gryfhau'r ddarpariaeth fore dydd Mercher.
'Dal angen gofal'
Un sydd wedi teimlo effaith y newidiadau yw Yvonne Davies a'i mam Doris, sy'n wyth deg pump.
Ar ôl cael ei tharo'n ddifrifol wael bu'n rhaid mynd a Doris i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth am driniaeth.
Dywedodd Yvonne Davies: "Naw dwrnod wedi iddi gyrraedd ysbyty we nhw'n gweud wel mae'ch mam yn gallu mynd i'r tŷ bach ei hunan - mae'n barod i fynd gytre.
"A gall hi wedyn cael gofal yn y gymuned a phobl yn dod mewn i'w chartre i'w gweld hi.
"Ond wedd ei chyflwr hi dal yn wael - ro'dd ei choese fel trync coeden a we nhw'n weepan i gyd - wedd y llawr yn wlyb - a we nhw byth yn meddwl hala hi gytre."
Mae'r teulu'n byw ger Blaenffos yn Sir Benfro, sydd dros awr o daith o Aberystwyth.
Ar ol mynnu bod angen gofal pellach ar ei mam, cafodd Yvonne sioc o glywed eu hopsiynau, sef teithio i'r Bermo neu i Dregaron, ymhell o'u cartref.
Dywedodd y byddai'r straen o deithio ymhellach wedi bod yn "afresymol".
Colli gwelyau
Yn y gorffennol, ysbyty agosaf y teulu fyddai Ysbyty Gymunedol Aberteifi, ond y llynedd cafodd yr holl welyau i gleifion gael aros dros nos eu cau.
Mae'r bwrdd iechyd lleol wrthi'n cynllunio canolfan iechyd newydd yn y dref, ac mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau flwyddyn nesa.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Hywel Dda chafodd gwlâu ddim eu colli pan gaeodd y wardiau yma yn Ysbyty Aberteifi.
Yn hytrach maen nhw wedi eu dosbarthu drwy'r gymuned leol mewn gwahanol ganolfannau.
Dywedodd y byrddau iechyd eraill hefyd bod nifer o wasanaethau gofal cymunedol wedi eu dechrau yn lle'r gwasanaethau gafodd eu colli.
Mae ffigyrau Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn dangos mai dim ond un bwrdd iechyd sydd wedi llwyddo i gyrraedd targedau llywodraeth Cymru ynglyn a chynyddu nifer y staff sy'n gweithio'n y gymuned.
Roedd y ffigwr i fod i gynyddu 10% ym mhob rhanbarth rhwng 2010-13, ond dim ond ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan mae hynny wedi digwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Cymru bod eu cynlluniau iechyd yn creu "gwasanaethau diogel, cynaliadwy ac wedi eu cyfuno", a hynny mor agos â phosib i gartrefi cleifion, pan yn bosib.
Ychwanegodd y llefarydd: "Ddydd Mercher, bydd y dirprwy weinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus, Gwenda Thomas, yn datgelu sut y bydd ein Cronfa Gofal £50m yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu modelau newydd o ddarparu gwasanaethau, gofal a chefnogaeth i bobl hyn ar draws Cymru yn eu cymunedau lleol..."
'Siomedig'
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd, Darren Millar AC bod lleihau nifer y gwelyau yn "siomedig".
"Pan mae gwelyau yn cael eu colli ac ysbytai yn cael eu cau a'u hisraddio, mae gwasanaethau cymdeithasol yn bwysicach nac erioed ac yn haeddu'r buddsoddiad cywir i alluogi i gleifion gael triniaeth brydlon yn eu hardaloedd.
"Mae'n glir o'r newyddion yma bod toriadau Llafur i gyllid y GIG yn atal hynny rhag digwydd."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd, Elin Jones: "Nid yw'r ffigyrau hyn yn sioc i unrhyw un ohonom sy'n cynrychioli etholaethau lle mae gwelyau cymunedol wedi cael eu targedu ar gyfer cael eu cau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf."
Dywedodd mai'r unig beth sydd wedi ei gyflawni o golli gwelyau yw "rhoi pwysau ar wardiau llem ysbytai a gwasanaethau gofal cartref sydd eisoes heb ddigon o adnoddau".
Dywedodd Kirsty Williams, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru bod ei phlaid wedi "brwydro" dros fuddsoddiad o £50m mewn gofal cymdeithasol yn ddiweddar.
"Rydym ni'n gwybod y darperir y gofal orau yn agosach i'r cartref, ac mae'r erydiad parhaol o wasanaethau iechyd lleol gan Lafur yn tanseilio'r gallu i ofalu am bobl yn effeithiol yn eu cymunedau eu hunain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2013