Cyflwyno deiseb i wrthwynebu carchar ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd
Carchar Port Talbot
Disgrifiad o’r llun,

Daeth degau o ymgyrchwyr Fae Caerdydd i gyflwyno deiseb yn erbyn adeiladu carchar ym Mhort Talbot

Mae bron i 9,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu cynlluniau i adeiladu carchar newydd ym Mhort Talbot.

Cafodd y ddeiseb ei chyflwyno gan ddegau o ymgyrchwyr ar risiau'r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher.

Mae'r safle ym Maglan sy'n cael ei ffafrio ar gyfer y datblygiad dan berchnogaeth gyhoeddus, ac mae'r ddeiseb yn galw ar y Cynulliad i annog Llywodraeth Cymru i beidio â'i ryddhau i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes penderfyniad wedi ei wneud ar ddyfodol y safle.

Ffynhonnell y llun, Steve Hill

Dywedodd AC Llafur Aberafan, David Rees: "Mae wedi bod yn amlwg, ers i ni wybod ym mhle roedd y safle, ei fod yn hollol anaddas ar gyfer carchar newydd.

"Ar sawl achlysur, dwi wedi galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â gwerthu'r tir i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ac i'w ddefnyddio, yn lle hynny, i gryfhau'r economi yn ein tref.

"Mae'r neges gan bobl Port Talbot i Lywodraeth Cymru yn reit glir - pan fydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gofyn am brynu'r tir neu ei gael ar les, jyst dwedwch na."

Mae 'na wrthwynebiad wedi bod i'r cynlluniau am garchar newydd categori C ar gyfer 1,600 o garcharorion ers iddo gael ei gyhoeddi'n gynharach eleni.

'Angen dangos uchelgais'

Mae hefyd wedi dod i'r amlwg y gallai cyfyngiadau fod ar y safle, fyddai'n golygu mai dim ond fel parc diwydiannol y gellid ei ddefnyddio.

Dywedodd AC Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Bethan Jenkins: "Mae'n glir nad yw'r gymuned eisiau'r carchar yma.

"Dydyn nhw na Chymru angen carchar o'r maint yma yng nghalon prif ardal ddiwydiannol Cymru.

"Rhaid i Lywodraeth Llafur Cymru ddechrau meddwl mwy o Gymru a dangos rhywfaint o uchelgais i'n cymunedau, yn hytrach na cheisio gwerthu carchar newydd fel buddsoddiad economaidd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oes penderfyniad wedi ei wneud hyd yma ar ddyfodol y safle.

'£11m i economi'r rhanbarth'

Dywedodd y Gwasanaeth Carchardai bod buddsoddiad gwerth £1.3bn yn cael ei wneud i "foderneiddio'r ystâd carchardai".

"Yng Nghymru yn unig, bydd hyn yn creu hyd at 500 o swyddi ac yn cyfrannu £11m y flwyddyn i economi'r rhanbarth," meddai llefarydd.

"Bydd ein cynlluniau yn gweld carchardai modern o safon uchel yn cymryd lle sefydliadau hŷn, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r gymuned leol wrth i'r cynlluniau ddatblygu."