Pryder cynyddol am ddiffyg llefydd mewn ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae pryder fod poblogaeth sy'n cynyddu a mwy o ddatblygiadau tai yn cyfrannu at brinder lleoedd mewn ysgolion yn rhai ardaloedd o Gymru.
Ymhlith y pryderon mae'r ffaith fod ddiffyg lleoedd yn wynebu Cyngor Caerdydd, gyda niferoedd disgyblion wedi codi bron i 20% ers 2010.
Dywedodd Cyngor Sir Benfro eu bod hwythau hefyd yn dioddef "pwysau cynyddol".
Yn ôl undeb penaethiaid NAHT, mae sicrhau bod digon o leoedd dysgu yn fater "heriol iawn".
Cyngor i drafod
Bydd Cyngor Caerdydd yn trafod llefydd addysgol mewn cyfarfod ddydd Iau, wedi i'r cynghorydd Rhys Taylor o'r Democratiaid Rhyddfrydol godi'r mater.
Mae'r blaid yn honni bod niferoedd disgyblion o'r feithrinfa hyd at ddiwedd oed ysgol gynradd wedi cynyddu o 27,789 yn 2010 i 33,469 ym mis Ionawr 2017.
Mae rhybudd hefyd bod rhai teuluoedd sydd â'r "modd economaidd" yn gallu symud o fewn dalgylchoedd i sicrhau lleoedd mewn ysgolion penodol, gan arwain at "golli'r naws gymunedol".
Mae Mr Taylor yn galw ar y cyngor i amlinellu sut y byddant yn delio "gyda'r diffyg lleoedd digonol yn ysgolion uwchradd y ddinas".
'Awgrym anghyfrifol'
Roedd llefarydd grŵp Llafur ar Gyngor Caerdydd yn dadlau bod y ffigyrau sydd wedi eu cynnig yn rhai "cwbl anghywir", a'u bod "wedi'u cynllunio i achosi panig ymhlith rhieni".
"Nid dyma'r tro cyntaf i'r Democratiaid Rhyddfrydol geisio ennill pwyntiau gwleidyddol drwy ddefnyddio lleoedd ysgol," meddai.
"Mae addysg yn rhy bwysig i fod yn bêl-droed gwleidyddol ac mae'n anghyfrifol i'r Democratiaid Rhyddfrydol awgrymu nad ydym yn mynd i'r afael â'r mater."
Dywedodd Cyngor Caerdydd fod eu rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi'i "gynllunio i fodloni'r galw" ar gyfer y lleoedd.
Mae'n rhan o gynllun £164m sy'n cael ei ddefnyddio i adeiladu ysgolion newydd ac ehangu safleoedd presennol.
Ar hyn o bryd mae dwy ysgol uwchradd yn cael eu hadeiladu yng Nghaerdydd, ynghyd â phedair ysgol gynradd.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor fod datblygiadau tai newydd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer ysgolion, gan gynnwys datblygiad Plas Dŵr yng ngogledd Caerdydd.
'Heriol iawn'
Dywedodd llefarydd ar ran undeb NAHT: "O ystyried y cyfuniad o ysgolion llawn mewn rhannau o Gymru, pwysau ariannol sy'n wynebu awdurdodau lleol a phobl yn symud, mae bodloni'r galw am lefydd yn heriol iawn."
Dywedodd fod angen bod yn "fanwl a strategol" wrth gynllunio lleoedd, ond ei fod yn broblem anodd gydag "ansicrwydd ynghylch darparu gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i bolisi llymder San Steffan".
"Mae angen i bob plentyn gael lle ysgol addas, yn ddelfrydol yn yr ysgol leol, ac mae angen mwy o sicrwydd i rieni cyn gynted â phosib," meddai.
"Mae arweinwyr ysgol yn aml yn cefnogi eu hawdurdod lleol, gan fod yn hyblyg lle bo modd."
Mae Cyngor Sir Benfro yn dweud fod "pwysau cynyddol o ran lleoedd" mewn nifer o ysgolion yn y sir, yn enwedig ar lefel cynradd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod gan yr awdurdod "enghreifftiau penodol yn nhrefi Hwlffordd ac Aberdaugleddau" a'i bod yn "debygol bod hyn o ganlyniad i gynnydd yn y boblogaeth, a datblygiadau tai".
Fe fydd Ysgol Fabanod a Meithrin yn Aberdaugleddau ac Ysgol Adran Iau Aberdaugleddau yn cau'r flwyddyn nesaf i greu ysgol newydd i ddisgyblion tair i 11 oed, a gobaith y cyngor yw y bydd hynny yn gymorth i leddfu'r galw cynyddol am leoedd.
Cau ysgolion
Mae cynghorau eraill yng Nghymru yn wynebu problem i'r pegwn arall - desgiau gwag.
Mae nifer o ysgolion wedi cau ac mae cynlluniau i fwy gau hefyd yn Sir y Fflint fel rhan o raglen moderneiddio'r cyngor.
Dechreuodd Cyngor Ynys Môn ar eu rhaglen buddsoddi £33m yn 2012 er mwyn ceisio gwella safonau mewn ysgolion a mynd i'r afael â lleoedd gwag.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae lleoedd dros ben wedi lleihau yn y sector cynradd ac maent bellach ar lefel dderbyniol."
Ar hyn o bryd 12% yw canran y lleoedd dros ben, gyda rhai ysgolion cynradd yn llawn.
"Mae'r cyngor yn parhau i adolygu ei raglen foderneiddio yn rheolaidd er mwyn lleihau'r pwysau ar leoedd ysgol," ychwanegodd y llefarydd.