Lyncs coll Ceredigion yn 'chwarae gyda' ceidwaid sŵ
- Cyhoeddwyd
Mae ceidwaid sŵ yng Ngheredigion yn dweud fod lyncs sydd wedi bod ar goll ers wythnos diwethaf yn eu gwawdio nhw.
Drwy gydol yr wythnos mae staff Sŵ Borth ger Aberystwyth, yn ogystal ag awdurdodau lleol, wedi bod yn ceisio dal yr anifail wedi iddo ddianc.
Nos Iau fe bostiodd y ganolfan lun ar eu tudalen Facebook yn dangos y lyncs, o'r enw Lilleth, yn sefyll ger un o'r trapiau sydd wedi eu gosod i geisio'i dal.
Ond fe wrthododd gymryd yr abwyd, ac yn hytrach fe ddiflannodd unwaith eto.
"Rydyn ni dal yn chwilio ond 'dyn ni'n dod yn agosach," meddai perchennog y sŵ, Tracy Tweedy mewn neges yn cyd-fynd â'r llun.
Mewn ymateb i un o'r sylwadau am y llun, ychwanegodd y ganolfan: "Mae hi'n bendant yn chwarae gyda ni!"
Y gred yw bod y lyncs yn parhau i fod rywle yn agos i'r sŵ, ac mae swyddogion a hyd yn oed hofrenyddion wedi'u defnyddio i geisio'i dal.
Fe rybuddiodd Heddlu Dyfed Powys y gallai'r anifail ymosod os yw'n cael ei gornelu, ac y dylai'r cyhoedd gadw draw.