Perfformio cân Eidalaidd o Goodfellas am bum wythnos

  • Cyhoeddwyd
organ Syr Watkin Williams WynnFfynhonnell y llun, Midas PR
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd organ Syr Watkin Williams-Wynn ei gwneud yn 1774

Mae cân Eidalaidd gafodd ei defnyddio yn ffilm Goodfellas yn mynd i gael ei pherfformio yn ddi-dor am bum wythnos ar organ yng Nghaerdydd.

Bydd y gân 'Il Cielo in una Stanza' (Yr Awyr mewn Ystafell) yn cael ei pherfformio gan 10 organydd ar un o organau hynaf Prydain.

Mae'r organ, oedd yn berchen i Syr Watkin Williams-Wynn ac a gafodd ei gwneud yn 1774, yn cael ei chadw yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Bydd y gân yn cael ei pherfformio dros 3,000 o weithiau yn ystod y pum wythnos.

Artist o Wlad yr Iâ, Ragnar Kjartansson, gafodd y syniad o gynnal y perfformiadau.

Ffynhonnell y llun, Midas PR
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r comisiwn cyhoeddus cyntaf i'r artist Ragnar Kjartansson yn y DU

Yn 2015 cafodd gwaith Mr Kjartansson ei ddewis ar gyfer gwobr yr Artes Mundi.

Roedd y gwaith hwnnw yn arddangos fideo naw sgrin ac fel rhan o'r arddangosfa roedd yn chwarae gitâr yn y bath am nifer o oriau. Cafodd wobr £30,000 Ymddiriedolaeth Derek Williams am ei berfformiad.

Y flwyddyn ganlynol roedd ganddo arddangosfa yn y Barbican yn Llundain.

Mae 'Yr Awyr yn yr Ystafell' wedi cael ei gomisiynu gan yr Amgueddfa Genedlaethol ac Artes Mundi.

Dyma'r tro cyntaf i waith Ragnar Kjartansson gael ei gomisiynu yn y DU.

Ffynhonnell y llun, Midas PR
Disgrifiad o’r llun,

Ragnar yn chwarae ei gitâr yn y bath am oriau