Tata am fuddsoddi £30m yn ei ffatri ym Mhort Talbot

  • Cyhoeddwyd
TataFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Tata wedi cyhoeddi y bydd y cwmni'n buddsoddi £30m yn ei ffatri ym Mhort Talbot.

Dywedodd y cwmni y bydd peiriant creu dur 500 tunnell yn cael ei osod ar y safle, ac fe fydd offer arall yn cael ei ddiweddaru.

Unwaith bydd y peiriant yn ei le bydd modd newid 330 tunnell o haearn mewn i ddur ar y tro.

Yn ôl Tata bydd yr offer newydd yn ei helpu i gynhyrchu math mwy datblygedig o ddur sy'n cael ei ddefnyddio mewn ceir trydan a cheir hybrid.

Bydd y dur hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio yn diwydiant adeiladu.

Ymrwymiad hir dymor

Yn ôl Dave Murray, rheolwr prosiect gyda Tata, y bydd y peiriant newydd yn golygu y bydd modd sicrhau eu bod yn gallu cynhyrchu dur yn ddibynadwy i'r dyfodol.

Dywedodd Bimlendra Jha, Prif Weithredwr Tata ym Mhrydain, bod y buddsoddiad yn dangos "ymrwymiad yn yr hir dymor i gynhyrchu dur ym Mhrydain".

Ffynhonnell y llun, Tata
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y peiriant newydd yn newid 330 tunnell o haearn mewn i ddur ar y tro

Yn y gorffennol mae pryderon wedi bod am y ffatri ym Mhort Talbot, wrth i'r cwmni o India ddweud ar un cyfnod eu bod eisiau gwerthu rhai safleoedd yn y DU.

Ond ym mis Medi fe ddywedodd cwmni Almaenig Thyssenkrupp y bydden nhw'n uno gyda Tata.

Roedd hynny medden nhw yn gam i "adeiladu dyfodol" Tata yn Ewrop.