Gweithio trwy'r flwyddyn ar gyfer Diwrnod 'Dolig
- Cyhoeddwyd
Maen siwr bod nifer fawr ohonoch chi yn gwneud y paratoadau munud olaf ar gyfer Dydd Nadolig ond i rai mae'r gwaith caled yn dechrau fisoedd ymlaen llaw...
Fferm dyrcwn
Mae fferm Cwm Tynant, ger Talybont yng Ngheredigion wedi ennill gwobrau lu am eu tyrcwn.
"Ni'n magu rhyw 400 o dwrcis a gwyddau pob blwyddyn" eglura Marion Evans. "Ond yn ogystal â 'ny, ma' da ni 80 o hwyaid a rhyw 30 o gywion ieir... y cyfan yn cael eu paratoi ar gyfer y Nadolig.
Ond mae'r gwaith yn dechrau ym mis Mai, pan mae'r gwyddau diwrnod oed yn cyrraedd. Ym mis Medi mae'r tyrcwn pum wythnos oed yn cyrraedd. Mae'r hwyaid a'r ieir diwrnod oed hefyd yn cyrraedd ym mis Medi.
Mae'r gwyddau'n pori drwy'r cyfnod maen nhw gyda ni, ond mae angen bwyd arbennig ar y twrcis... a maen nhw'n bwyta lot.
Maen nhw'n cael bod mewn a mas yn yr awyr agored pan mae'r tywydd yn caniatau, ond yna tua canol Rhagfyr mae dydd y farn yn cyrraedd i nhw gyd truan. Mae'r cyfan yn cael eu lladd gyda ni yn ein lladd-dŷ bach ni yma ar y fferm.
Mae'n dipyn o marathon i gael y cyfan wedi eu lladd a'u paratoi mewn pryd,er mwyn bod yn barod ac yn ffres ar eu casglu, ond ni'n dod i ben â hi.
"Mae'r rhan fwyaf yn aros yn lleol, a mae gyda ni'r un pobl yn dod yn ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn gyda order, ond mae rhai yn ffeijio'u ffordd lan i Lundain a Chaerdydd fi wedi clywed."
Y ffatri tinsel
14 miliwn metr o dinsel pob blwyddyn. Dyna faint o'r stwff lliwgar mae Festive Productions o Gwmbran yn ei gynhyrchu bob blwyddyn. Mae'r gwaith o greu'r ardduniadau yn dechrau ym mis Ionawr yn ôl Cassie Hedlund, swyddog marchnata'r cwmni:
"Bydd adran dinsel y ffatri'n cau ym mis Rhagfyr ar gyfer cynnal a chadw'r peiriannau, ond ddechrau'r flwyddyn mae'r ffeiriau prynu'n dechrau eto ac erbyn diwedd mis Ionawr bydd 70% o'r archebion ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'u derbyn.
"Rhwng Mai a Tachwedd, mae'r ffatri'n cynhyrchu tinsel drwy'r dydd pob dydd ar 35 o beiriannau tinsel sydd wedi eu mewnforio'n arbennig o'r Almaen.
"Mae'n beth da bod y tinsel i gyd yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru oherwydd petai ni'n gorfod ei fewnforio, byddai'r holl dinsel yn llewni 16 shipping container!"
Y ffatri papur lapio
Dych chi erioed wedi meddwl o ble mae'r Frenhines yn cael ei phapur lapio? Wel cwmni IG Design o Ystrad Mynach ger Caerffili sydd yn cael y dasg honno.
Mae'r broses o greu'r papur yn dechrau yn gynnar yn y flwyddyn ac mae'n gorfod cael ei wneud ar gyflymder.
Mae un peiriant yn unig yn medru argraffu 600 metr o bapur lapio, pob munud. Mae'r papur yn wreiddiol yn cael ei argraffu mewn rîl enfawr sy'n pwyso dros 500kilo ac yn cynnwys 12,000 metr o bapur lapio i pob rîl.
Nawr te, ble mae'r selotêp 'na?