Ail lyncs o'r Wild Animal Kingdom yn y Borth wedi marw

  • Cyhoeddwyd
lyncsFfynhonnell y llun, SŴ BORTH
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lilleth y lyncs ei saethu rhyw dair wythnos wedi iddi ddianc

Mae wedi dod i'r amlwg bod ail lyncs o sŵ yng Ngheredigion wedi marw.

Fe gafodd un gath wyllt oedd ar ffo ei difa ar gais yr awdurdod lleol ddydd Gwener.

Nawr mae'r Wild Animal Kingdom yn y Borth wedi cadarnhau bod ail lyncs wedi marw drwy gael ei mygu wrth iddi gael ei chludo o un warchodfa i'r llall.

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod bellach yn cynnal ymchwiliad i farwolaeth yr ail lyncs, ond nad oedden nhw'n gallu gwneud sylw pellach am y tro.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd blodau eu gadael y tu allan i'r Wild Animal Kingdom yn y Borth

Enw'r ail anifail fu farw oedd Nilly, oedd yn rhannu gwarchodfa â Lillith, y lyncs aeth ar ffo ond doedd ddim yn perthyn iddi o gwbl.

"Dros yr wythnosau diwethaf, mae ein staff wedi bod dan bwysau anhygoel a phan roddodd yr awdurdodau rybudd o 24 awr y byddan nhw'n cynnal arolwg llawn o'r cathod fe benderfynom ni symud Nilly i warchodfa fwy addas," meddai'r Wild Animal Kingdom mewn datganiad.

"Yn anffodus, mae'n ymddangos bod camgymeriad cludiant erchyll wedi bod, ble gafodd yr anifail ei dal yn y polyn a'i mygu."

Mae'r perchnogion yn honni yn eu datganiad eu bod wedi etifeddu gwarchodfeydd gyda "phroblemau difrifol" pan gymeron nhw'r awenau "lai na chwe mis yn ôl." Maen nhw'n dweud bod cynlluniau ar droed i adeiladu gwarchodfa gwbl newydd i'r lyncs.

Er eu bod nhw'n dweud eu bod "wedi gweithio'n galed i wneud gwelliannau sylweddol", maen nhw'n dweud eu bod yn "nofio yn erbyn y llif".

Fe fydd y Wild Animal Kingdom ar gau am gyfnod amhenodol.

'Penderfyniad cywir'

Roedd y lyncs oedd ar ffo - o'r enw Lilleth - yn rhydd ers rhai wythnosau.

Fe achosodd bryder i ffermwyr lleol, gyda honiadau ei bod yn gyfrifol am ymosodiadau a laddodd nifer o ddefaid.

Yn ôl llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru, roedd penderfyniad yr awdurdodau i ddifa'r anifail yn addas.

"Mewn byd delfrydol, byddai'r lyncs wedi cael ei ddal yn sydyn, ond ddigwyddodd hynny ddim," meddai.

"Oherwydd y risg i bobl a da byw, roedd hi'n hen bryd gweithredu i gael gwared â pherygl o'r fath."