Y Gyllideb: Gwario neu gynilo?
- Cyhoeddwyd
Gwario neu gynilo? Beth fydd Philip Hammond yn ei wneud yn ei Gyllideb gyntaf ers yr etholiad?
Gyda dyled y wlad yn tyfu nid crebachu ac ansicrwydd ynglŷn â Brexit, yn reddfol fe fydd y Canghellor eisiau chwarae'n saff ac osgoi unrhyw ddrama.
Mae na reswm maen nhw'n ei alw yn Spreadsheet Phil.
Ond mae canlyniad yr Etholiad Cyffredinol a phoblogrwydd polisïau Jeremy Corbyn wedi dychryn llawer o Geidwadwyr.
Mae 'na bwysau sylweddol arno i ddod â'r cynni ariannol i ben ac i fod yn feiddgar a dechrau gwario.
Ac mae'r ceisiadau am arian yn dod o bob cyfeiriad.
'Dan ni'n gwybod y bydd tai yn flaenoriaeth i Philip Hammond, er mae'n annhebyg o ildio i'r galwadau i fenthyg mwy i dalu am dai newydd.
Mae 'na bwysau sylweddol arno hefyd i wario mwy ar y gwasanaeth iechyd ac ar addysg yn Lloegr.
Os ydy o'n canfod mwy o arian yna fe fydd yn golygu bod Cymru yn cael cyfran o'r arian hefyd.
Codi'r cap ar gyflogau?
Mae nifer o aelodau'r cabinet hefyd wedi galw am fwy o arian i weithwyr sector gyhoeddus.
Mae'r cap ar gyflogau swyddogion heddlu a charchardai eisoes wedi'i godi, felly fydd yna newyddion da i nyrsys ac athrawon hefyd?
A beth am y credyd cynhwysol? Mae aelodau o bob plaid wedi mynegi pryder am y cynllun sy'n cyfuno chwe budd dal mewn i un taliad.
Felly gyda mwy o ardaloedd yng Nghymru yn symud i'r system yn fuan, a fydd y Canghellor yn barod i leihau'r amser y mae'n rhaid bobl aros tan y cawn nhw eu taliad cyntaf?
Mae gan aelodau Cymreig restr o ofynion penodol hefyd.
Gydag S4C yn wynebu toriadau o £9m dros y dair blynedd nesaf, mae aelod Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan wedi ysgrifennu at Philip Hammond yn gofyn iddo warchod cyllieb y sianel yn ei Gyllideb.
Datganoli treth incwm, y dreth gorfforaeth a'r Doll Teithwyr Awyr yw blaenoriaethau Plaid Cymru. Maen nhw'n debyg o gael eu siomi.
Mae'n edrych yn debyg mai cael eu siomi fydd cenfogwyr Morlyn Bae Abertawe hefyd.
Roedden nhw'n gobeithio y byddai'r Canghellor yn defnyddio'r Gyllideb i fynegi ei gefnogaeth i'r cynllun, ond o beth 'dan ni'n ei ddeall, mae'r llywodraeth yn dal i edrych ar y ffigyrau.
Felly mae gan Phillip Hammond linell anodd i'w droedio.
Mae 'na bwysau mawr arno fo'n bersonol i gynnig rhywbeth i roi hwb i'r Ceidwadwyr er mwyn adennill rhywfaint o barch o fewn ei blaid.
Ond dyw cyflwr yr economi ddim caniatáu i'r Canghellor fod yn rhy hael - dydy o ddim eisiau benthyg gormod chwaith ac yn sicr fydd aelodau Ceidwadol ddim yn gadael iddo godi trethi.
Fe fydd o'n gobeithio osgoi unrhyw gamgymeriadau mawr, ond y peryg yw drwy fod yn rhy ofalus na fydd yn plesio unrhyw un yn y pendraw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2017