'Adolygiad S4C ddim yn debygol o gynyddu'r gyllideb'

  • Cyhoeddwyd
S4CFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y prif weithredwr newydd yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at symud y brif swyddfa i Gaerfyrddin

Ar ben blwydd S4C yn 35 oed mae prif weithredwr newydd S4C wedi dweud nad yw'n disgwyl i adolygiad annibynnol o'r sianel arwain at gynnydd yn y gyllideb.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael ei benodi, mae Owen Evans yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd yr adolygiad yn rhoi "sylfaen" ariannol i'r sianel, ond mae yn "annhebyg" o gynyddu'r incwm.

Cyn-gyfarwyddwr rhaglenni S4C, Euryn Ogwen Williams, sydd yn arwain yr adolygiad ar ran Llywodraeth y DU. Mae'r adolygiad yn ystyried dulliau ariannu, cylch gwaith a threfn llywodraethu'r sianel.

Ffynhonnell y llun, Euryn Ogwen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod disgwyl i'r adolygiad o dan arweiniad Euryn Ogwen Williams greu incwm

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud y byddant yn "syfrdan" os nad yw'r adolygiad yn argymell cynyddu cyllid S4C.

Mae S4C yn ddibynnol ar arian cyhoeddus, gan dderbyn £74.5m o ffi'r drwydded a £6.8m gan Lywodraeth y DU.

Fis Ebrill cyhoeddodd S4C ddogfen yn galw am £6m yn ychwanegol i sicrhau bod holl gynnwys y sianel yn cyrraedd pob llwyfan digidol newydd.

'Cyllid ychwanegol yn annhebygol'

Ond pan ofynnwyd i Mr Evans os oedd yn credu y byddai yr adolygiad yn arwain at fwy o gyllideb i S4C, dywedodd: "I fod yn onest - na.

"Dwi'n credu os buaswn ni'n gallu cael rhyw fath o sylfaen i sut mae S4C yn cael ei ariannu byddai hwnna yn peth positif iawn.

Disgrifiad,

Prif weithredwr newydd S4C Owen Evans yn dweud nad yw'n disgwyl y bydd cynnydd yng nghyllideb S4C wedi'r adolygiad annibynnol

"Byddwn i'n amlwg yn chwilio am chwyddiant. Mae S4C wedi dioddef toriadau enbyd dros y pump i saith mlynedd diwethaf. Byddwn i'n lico cael mwy o arian wrth gwrs, ond wrth edrych ar y sefyllfa ariannol ar draws y llywodraeth dwi'n gweld hynny yn annhebyg.

"Ond fi'n siwr bydd Euryn yn gwneud rhyw fath o ofynion am gyllid ac wrth sicrhau bod sylfaen i faint ni'n gael, gallwn ni gynllunio at y dyfodol."

Roedd mudiadau iaith a rhai gwleidyddion wedi lobïo Llywodraeth y DU i gynnal adolygiad annibynnol, gyda nifer yn galw am gynnydd yn y gyllideb. Mae'r corff sy'n cynrychioli cynhyrchwyr teledu annibynnol Cymru, TAC, hefyd wedi gofyn am gynnydd.

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Mewn datganiad dywedodd Heledd Gwyndaf, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Byddai'n syfrdanol pe bai'r adolygiad yn dod i'r casgliad nad oes angen rhagor o gyllid ar S4C.

"Wedi'r toriadau enfawr a fu dros y blynyddoedd diwethaf, byddai unrhyw gasgliad arall yn rhyfedd tu hwnt.

"Y dirwasgiad ar ddiwedd y degawd diwethaf oedd y rheswm a gafodd ei ddefnyddio i gyfiawnhau'r cwtogiadau difrifol, dirwasgiad a ddaeth i ben nifer o flynyddoedd yn ôl bellach. Felly, rydyn ni'n credu y dylai cyllideb ein darlledwr Cymraeg ddychwelyd i'r lefel cyn y dirwasgiad.

Ffynhonnell y llun, PCDDS
Disgrifiad o’r llun,

Teimladau cymysg gan y staff am symud i'r Egin yng Nghaerfyrddin

"Yr unig ateb i hyn yn y pendraw yw datganoli darlledu i Gymru: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru.

Mae Owen Evans yn ymuno ag S4C yng nghanol cyfnod o newidiadau. Bydd yr adolygiad annibynnol yn cael ei gyflwyno i'r llywodraeth cyn diwedd y flwyddyn a'r sianel yn adleoli ei phencadlys o Lanisien yng Nghaerdydd i ganolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin flwyddyn nesaf.

Mae'r prif weithredwr newydd yn gefnogol i'r cynllun i adleoli: "Fi'n credu bod y ffaith bod S4C yn mynd i roi eu prif swyddfa yng nghanol Cymru wledig yn rhywbeth y dylwn ni ymfalchïo ynddo.

"Fel rhywun o'r gorllewin, mae'n neis i weld hi yn mynd fynna, ond fyddwn i'n ddigon hapus i fynd i Gaernarfon neu beth bynnag. Ond mae'r penderfyniad wedi'i wneud.

"Mae fe'n her - does dim amheuaeth am hynny - ond mae'n rhywbeth bositif iawn i Gymru'r dyfodol."

Teimladau cymysg staff S4C

Wrth gael ei holi am ymateb staff S4C yng Nghaerdydd am y symud ychwanegodd:

"Mae'n rhaid i fi fod yn onest, mae 'na gymysgedd. Mae rhai bobl sy'n dweud 'Ie, gret, da ni'n mynd ac mae rhai bobl sy'n dweud, 'Beth ydyn ni'n mynd i wneud? Mae plant da fi yn yr ysgol,' neu 'Mae fy rhieni i'n sâl'.

"Mae'n rhaid i ni wrando, mae'n rhaid i ni ddeall - ar ddiwedd y dydd dwi moyn cymryd gymaint o bobl ag sy'n bosib o Gaerdydd i weithio efo fi yng Nghaerfyrddin. Felly mae'n rhaid i'r mudiad a'r sefydliad fod yn hyblyg am sut ry'n ni'n cefnogi nhw."

Roedd Owen Evans yn un o uwch weision sifil Llywodraeth Cymru cyn cael ei benodi'n brif weithredwr S4C, a chyn hynny roedd yn un o reolwyr BT yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Owen Evans yn dweud bod rhaglenni'r sianel wedi gwella'n ddiweddar

Ond mae Mr Evans yn dweud nad yw diffyg profiad yn y maes darlledu yn broblem.

"Os edrychwch chi ar beth sydd angen ei wneud gydag S4C dros y tair neu bedair blynedd nesaf, mae 'na sawl peth sydd ei angen. Yn gyntaf, mae'r berthynas gyda'r llywodraethau yn bwysig iawn. Yn amlwg mae gen i gefndir cryf yn fynna.

"Mae'r ochr fasnachol yn bwysig iawn hefyd achos mae eisiau dod a mwy o bres mewn i S4C fel ein bod ni'n gallu gwario mwy o bres ar raglenni.

"Mae'r ffaith ein bod ni yn mynd i symud yn gyfan gwbl ein prif swyddfa ni o Gaerdydd i Gaerfyrddin yn rhywbeth sydd angen lot o brofiad o wneud pethau ar raddfa uwch."

Dywedodd y bydd penderfyniadau am amserlen y sianel a'r rhaglenni sy'n cael eu comisiynu yn cael ei wneud gan y tîm o reolwyr.

"Ry'n ni'n ffodus bod yna dîm comisiynu rhaglenni cryf yma ac ro'n i'n impressed iawn wedi'u cyfarfod.

"O'n i'n gallu gweld hyn dros y flwyddyn ddiwethaf (ar y teledu) - dwi wedi gweld y cynnwys yn gwella. A dwi'n mwynhau lot o raglenni nawr, ble falle o'n i ddim yn y gorffennol."