Parc Gwyddoniaeth Menai: Cyhoeddi enwau busnesau newydd

  • Cyhoeddwyd
parc busnes
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd M-SParc yn agor yn gynnar yn 2018

Mae parc gwyddoniaeth newydd gwerth £20m ar Ynys Môn wedi cyhoeddi enwau'r busnesau cyntaf fydd yn symud i'r ganolfan.

Mae disgwyl y bydd Parc Gwyddoniaeth Menai (M-SParc), sy'n rhan o Brifysgol Bangor, yn agor yn gynnar yn 2018.

Mae'r parc, sy'n gobeithio bod yn hwb i gwmnïau yn y sector wyddoniaeth a thechnoleg, yn dweud fod 11 o gwmnïau yn barod i gymryd eu lle yn yr adeilad ger Y Gaerwen ar yr ynys.

Y nod yn wreiddiol oedd creu dros 700 o swyddi ar y safle, ond fe ddywedodd y rheolwyr yn ddiweddarach fod y ffigwr yn nes at 350.

Mae'r tenantiaid yn cynnwys amrediad eang o sefydliadau, o gwmnïau newydd sy'n ymwneud â thechnoleg gwybodaeth a deunyddiau carbon isel, i gwmnïau mawr o fewn y sector gweithgynhyrchu.

Disgrifiad,

Cyfarwyddwr Parc Gwyddoniaeth Menai, Ieuan Wyn Jones, ar y Post Cyntaf fore Mercher.

'Mynd tu hwnt i dargedau'

Dywedodd cyfarwyddwr y parc gwyddoniaeth, Ieuan Wyn Jones ei fod wedi ei gyffroi gyda'r datblygiad diweddaraf.

"Rydym wedi gosod targedau uchelgeisiol ond realistig ar gyfer y tenantiaid fydd yma ar y diwrnod cyntaf, mae'n bleser mawr felly ein bod wedi mynd tu hwnt i'r targedau hynny," meddai.

"Ein nod yw helpu cwmnïau i dyfu ac roedd angen inni sicrhau bod gennym y gofod iddynt wneud hynny.

"Mae'r galw wastad wedi bod yno, ond wrth i ddiddordeb yn y parc dyfu, fe dyfodd y galw hefyd."

Ychwanegodd: "Mae'n galonogol gweld bod llawer o'r cwmnïau'n lleol i'r rhanbarth, yn ogystal â rhywfaint o fewnfuddsoddiad newydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r parc wedi'i leoli ger Y Gaerwen ar yr ynys

Un o'r cwmnïau newydd fydd yn symud i'r parc fydd Ambionics - cwmni o Borthaethwy sy'n datblygu technoleg arbenigol i gynorthwyo plant sydd heb freichiau.

Dywedodd sylfaenydd y cwmni, Ben Ryan, fod cael lle fel M-SParc yn galluogi iddo newid y ffordd mae ei gwmni yn gweithredu.

"Mae'r gefnogaeth fusnes rwyf wedi ei dderbyn fel darpar denant wedi bod yn amhrisiadwy, ni allaf aros nes byddai yn symud i mewn ac yn dechrau gweithio gyda phobl o faesydd tebyg."Y cwmni mwyaf fydd yn symud i'r parc fydd Loyalty Logistix, cwmni sy'n darparu gwasanaethau cyfrifiadurol i'r diwydiant ceir, sydd ar hyn o bryd wedi ei leoli ym Mangor, ac yn cyflogi 50 o bobl.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro John Hughes: "Mae'r parc gwyddoniaeth newydd eisoes yn rhoi cyfle gwych i bobl a chwmnïau lleol i sefydlu eu hunain yn yr ardal, ac i elwa o arbenigedd oddi fewn i'r Brifysgol.

"Rwyf yn hapus iawn gyda'r datblygiad hyd yma, ac yn edrych ymlaen at ei weld yn mynd o nerth i nerth fel mae'n creu cyfleoedd a swyddi newydd yn y rhanbarth."