Naturiaethwr yn rhybuddio am 'ddiflaniad' golygfeydd

  • Cyhoeddwyd
Eglwys MwntFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae eglwys Mwnt ar arfordir Ceredigion

Mae awdur a daearegwr blaenllaw wedi rhybuddio na fydd rhai o safleoedd golygfaol gorau Cymru yn parhau hyd ddiwedd y ganrif.

Dywed Dyfed Elis-Gruffydd, sy'n Gadeirydd Cymdeithas Edward Llwyd ac yn aelod o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, fod y tri pharc cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol a llefydd ar yr arfordir "yn dangos fod erydu yn digwydd yn ddyddiol".

Ymhlith y llefydd nodweddiadol na fydd i'w gweld i'r cenedlaethau i ddod, meddai, mae'r eglwys hynafol eiconig ym Mwnt oddi ar arfordir Ceredigion.

Daw sylwadau Mr Elis-Gruffydd wrth iddo lansio ei lyfr 100 Remarkable Vistas.

Dywedodd: "Mae bygythiad i bentre' Niwgwl yn Sir Benfro, a hynny nid i'r traeth ond y pentre' ei hunan, bydd pethau ddim yn gwella, ond mynd yn waeth.

"Ym Mwnt mae'r awdurdodau wedi cydnabod fod y maes parcio dan fygythiad ond bydd yr eglwys a'i mynwent hefyd yn diflannu.

"Dwi wedi bod yn arsylwi erydiad yr ardal am 30 mlynedd ac mae'r clogwyni yn cilio, mae'r eglwys yn y fantol a does dim allwn i wneud am hyn."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Mae hollt wedi ymddangos ar ran o'r Llwybr Arfordirol rhwng Aberystwyth a Borth

Ddydd Mawrth fe wnaeth Cyngor Ceredigion rybuddio cerddwyr i gadw draw o ran o Lwybr yr Arfordir yn dilyn hollt mawr ar glogwyn ger y creigiau i'r gogledd o Glarach.

Dair blynedd yn ôl bu'n rhaid i berchnogion carafannau gwyliau ym Mro Morgannwg symud eu carafannau oddi wrth ymyl clogwyni wedi tirlithriad.

Ychwanegodd Mr Elis-Gruffydd: "Ond er bod erydu wedi ffurfio rhan o dirwedd Cymru, mae bellach yn her i ni yn ganlyniad i gynhesu byd-eang sydd wedi ei achosi gan bobl.

"Mae nifer o wyddonwyr yn disgwyl i lefel y môr godi o leiaf hanner metr erbyn diwedd y ganrif, felly bydd nifer o lefydd yn diflannu."