Cwestiynu benthyciad £3m Llywodraeth Cymru ar ffilm
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg fod ffilm antur gafodd ei rhyddhau ar DVD y llynedd wedi derbyn £3.1m o arian gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y ffilm 'Take Down' yn un o'r rhai cyntaf i elwa o gynllun y llywodraeth oedd yn rhoi benthyciadau o £11.9m i deledu, ffilmiau a gemau fideo.
Hyd yma, dim ond £940,000 mae'r ffilm wedi'i dalu'n ôl o'r benthyciad.
Mae refeniw ar gyfer prosiectau wnaeth Llywodraeth Cymru fuddsoddi ynddyn nhw fod i dalu'r arian yn ôl dros gyfnod o sawl blwyddyn, a dywedodd y Llywodraeth ei bod hi'n "rhy gynnar" i fesur llwyddiant ar hyn o bryd.
'Adlewyrchiad têg'
Mae cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru yn dangos - allan o 11 prosiect a dderbyniodd arian, £3.6m mae'r llywodraeth wedi llwyddo i gael yn ôl.
Dim ond un prosiet, 'Their Finest' sydd wedi ad-dalu'r benthyciad yn llawn, er nad yw nifer o'r ffilmiau eraill wedi eu rhyddhau eto.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'r ffigyrau yn "adlewyrchiad têg" o berfformiad y prosiectau, gyda disgwyl iddi gymryd degawd i gael yr arian yn ôl yn llawn.
Dywedodd Suzy Davies AC, llefarydd y Ceidwadwyr Cymraeg ar ddiwylliant, ei bod hi'n "iawn i drethdalwyr gwestiynu'r buddsoddiad" gafodd ei roi" i 'Take Down', ond dywedodd Tom Ware o Brifysgol De Cymru ei bod hi "rhy gynnar i unrhyw un feirniadu Llywodraeth Cymru."
Fe gafodd y ffilm, gafodd ei chynhyrchu gan gwmni Pinewood, £3,144,000 o fenthyciad.
Mae'r ffilm gafodd ei ffilmio ar leoliad ar Ynys Môn ac yn stiwdios Pinewood yng Nghymru wedi talu £941,413 yn ôl.
Fe gafodd £1.5m o fenthyciad ei roi i ariannu drama deledu o'r enw 'The Collection', sydd wedi'i lleoli ym Mharis wedi'r rhyfel. Roedd BBC Worldwide hefyd yn rhan o'r cynhyrchiad.
Yn ôl y wybodaeth a gafwyd wedi'r cais rhydid gwybodaeth, £119,075 o'r arian sydd wedi'i dalu'n ôl hyd yma, ar ôl i'r gyfres gael ei rhyddhau ar blatfform Amazon Prime y llynedd.
Fe gafodd y ffilm gomedi Brydeinig 'Their Finest' £2m o fenthyciad. Mae wedi gwneud elw o £49,985 hyd yma, ar ôl rhoi £2.049m yn ôl.
Mae ffilm arall o'r enw 'Don't Knock Twice' wedi talu £469,415 yn ôl ar ôl derbyn benthyciad o £629,516. Fe gafodd y ffilm hefyd grant o £75,000 gan Gronfa Sgrîn Cymru ar ôl cael ei rhyddhau yn y sinemâu yn y DU ym mis Mawrth eleni.
Fe gafodd Cyllideb Buddsoddiad y Cyfryngau ei gyhoeddi yn 2014 fel rhan o gytundeb gyda Pinewood wnaeth hefyd sefydlu stiwdio yng Nghymru sydd wedi cael ei defnyddio ar gyfer rhai o'r cynyrchiadau.
Ffilmio yng Nghymru
Mae'r gyllideb sydd werth £30m yn cael ei reoli gan Pinewood, ond fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru bod y cwmni wedi tynnu allan o'r cytundeb ar ddechrau'r mis.
Mewn ymateb i'r cais rhyddid gwybodaeth, mae nifer o brosiectau sydd eisoes heb ei rhyddhau wedi derbyn benthyciadau.
Dydy ffigyrau'r cais rhyddid gwybodaeth ddim yn "adlewyrchiad teg" ar berfformiad y cynyrchiadau, yn ôl ymateb wnaeth ddod gyda'r cais.
Mae telerau'r gyllideb yn nodi bod angen i 50% o'r ffilmio gael ei gwblhau yng Nghymru, gyda 40% yn cael ei wario gyda chwmnïau creadigol sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ffigyrau'n dangos bod dros "£100m wedi'i wario yng Nghymru yn y pum mlynedd diwethaf o ganlyniad i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru."
Ychwanegodd: "Fel buddsoddwyr, rydym yn derbyn bod elfen o risg i bob cynhyrchiad, a bydd rhai yn fwy llwyddiannus nag eraill.
"Mae'n bwysig sylwi fod y cynyrchiadau dan sylw yn amrywio o fod yn y dyddiau cyn cynhyrchu hyd at ddiwedd y broses o fod yn cael eu rhyddhau mewn sinemâu rhyngwladol neu ar deledu.
"Bydd refeniw sy'n cael ei greu gan y prosiectau yn parhau i ddod 'nôl i Lywodraeth Cymru am sawl blwyddyn, ac mae ceisio beirniadu neu fesur llwyddiant yn y dyddiau cynnar yma yn gynamserol ac yn naïf," meddai.
Gwrthododd Pinewood gais i wneud sylw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2017
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2017