Ateb y Galw: Siôn Corn sy'n rhannu ei gyfrinachau

  • Cyhoeddwyd
Siôn Corn

Y dyn ei hun, Siôn Corn sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon. Ho ho ho!

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eira. Lot o blu eira yn disgyn a sŵn clychau Nadolig yn tincial.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Mrs Corn, wrth gwrs! Sgiliau lapio anrhegion arbennig ganddi.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Es i ag anrheg Carwyn Jones i dŷ Derek Brockway un tro. Wel, dydi'r ddau yn edrych mor debyg i'w gilydd? Doedd gan Derek ddim syniad beth i'w wneud â'i lyfr Politics for Dummies newydd... wps!

Carwyn a Derek
Disgrifiad o’r llun,

Nid Siôn yw'r cyntaf i gymysgu Derek Brockway (chwith) a Carwyn Jones (dde)

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Pan dwi'n derbyn llythyrau hyfryd gan blant bach yn diolch am eu anrhegion - maen nhw mor ddiolchgar ac mae hynny yn fy ngwneud i grïo mewn llawenydd. O, a phan nes i ollwng beic Chopper ar fy nhroed yn 1973.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gadael briwsion mins pei dros y lle ymhob man. Sori bobl! Mae Mrs Corn yn dal i ffeindio rhei yn fy marf ym mis Chwefror.

Os dwi ddim yn lecio'ch sieri chi dwi'n ei arllwys o i'r lle tân. Mae ambell i blentyn sy'n codi'n y bore yn meddwl mai Rwdolff sydd wedi pi-pi yno!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae'n anodd dewis dim ond un lle yng Nghymru, gan fod y wlad i gyd yn brydferth. Dwi wrth fy modd efo'r olygfa ohoni o'r awyr. Dwi'n arbennig o hoff o Grymych oherwydd bod y bobl yno'n gadael wisgi i mi yn lle sieri.

CymruFfynhonnell y llun, Chris Hadfield
Disgrifiad o’r llun,

Mae golygfa Siôn Corn o Gymru fach yn debyg i un Chris Hadfield pan oedd yn y gofod

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae pob Noswyl Nadolig yn wych, wrth gwrs! Ond un tro wnes i allu gorffen yn gynt nag arfer a llwyddo i gael cibab cyn mynd adre'. Bythgofiadwy.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Boliog. Blewog. Hael.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Rydw i wrth fy modd â'r llyfr a'r ffilm Father Christmas, gan Raymond Briggs, sydd wedi ei seilio ar fy mywyd - er, wrth gwrs, dwi'n defnyddio llawer llai o regfeydd go iawn na'r cymeriad yn y ffilm (dylanwad Hollywood oedd hwnnw...!)

line
line

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Pwy bynnag benderfynodd bod rhaid i mi ddefnyddio'r simnai i fynd i mewn i'r tŷ, er mwyn i mi ei hitio'n galed! Mae o'n anghyfforddus ac yn fudr! Beth sy'n bod gyda'r drws ffrynt?!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Gwyrdd oedd lliw fy ngwisg yn wreiddiol, ond fod Coca Cola wedi penderfynu fod coch yn fwy trawiadol... roedd rhaid i mi newid fy wardrob yn llwyr. Cyfalafiaeth yn ennill eto!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael brechdan cig carw. Iym! (Jôc!)

Mins peis

Beth yw dy hoff gân a pham?

Pwy sy'n dŵad dros y bryn, wrth gwrs!

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Er ei fod o braidd yn cliché, dwi wrth fy modd â chinio Nadolig! Felly cawl gyda bara gwyn cartref i ddechrau, cinio twrci gyda'r holl drimings (gan gynnwys y sbrowts!), wedyn clamp o bwdin Nadolig mawr.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Rwdolff... er mae rhai yn dweud fod gen i drwyn mor goch â fo beth bynnag... hic!

Nadolig Llawen iawn i chi i gyd!