Aur Cymreig yn gwerthu mewn ocsiwn am £44,000

  • Cyhoeddwyd
aur clogauFfynhonnell y llun, Rogers Jones Co
Disgrifiad o’r llun,

Fflochiau a darn o aur Clogau oedd yn mynd ar werth ddydd Mawrth

Mae aur Cymreig o waith mwyngloddio Clogau wedi gwerthu am £44,000 mewn ocsiwn.

Roedd y darnau a fflochiau o'r aur o ardal Dolgellau ar gael yn arwerthiant Rogers Jones ym Mae Colwyn, Sir Conwy.

Roedd disgwyl i'r aur, gafodd ei gloddio dan brydles llywodraeth rhwng 1979 ac 1981, werthu am hyd at £8,700.

"Mae'n hollol unigryw cyn belled â 'dyn ni yn y cwestiwn, 'dyn ni erioed wedi cael aur crai Cymreig fel hyn o'r blaen," meddai'r arwerthwr David Rogers-Jones.

Y 'ffactor Cymreig'

Dywedodd Mr Rogers-Jones fod arbenigwyr wedi dweud wrtho fod aur Cymreig yn "amlwg" yn wahanol i fathau eraill a bod y "ffactor Cymreig" yn gallu arwain at brisiau uwch.

Mae aur Cymreig wedi bod yn cael ei ddefnyddio ym modrwyau'r teulu brenhinol ers 1923, ers i'r Fam Frenhines, Elizabeth Bowes-Lyon, briodi Dug Efrog.

"Dydyn ni'n bendant ddim wedi cael aur Cymreig o'r blaen, a dwi wedi bod yn arwerthu ers 57 mlynedd," meddai cyn yr arwerthiant.

Cafodd yr aur ei gloddio o weithfeydd Clogau Dewi Sant ger Dolgellau wedi i ffermwr yn yr ardal, Jack Williams, gysylltu â Kerry John Thackwell a'i dad Ray.

Roedd y ddau ohonyn nhw wedi dod i Gymru i gloddio ar ôl gweithio yng ngorllewin Awstralia.

Dywedodd Mr Williams wrthyn nhw mai fo oedd y mwyngloddiwr olaf i weithio yng ngweithfeydd Dewi Sant yn 1939, ac y gallai ddangos wrthyn nhw ble roedd yr aur wedi'i leoli yn y graig.

Fe wnaeth y dynion gael prydles i gloddio dros gyfnod o dair blynedd.

Roedd y darn lleiaf o aur oedd ar werth yn pwyso 3g.