Rhybudd cynghorydd am effaith cau ysgolion ardal Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Ysgol BeulahFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Beulah - sydd ag 17 disgybl - yn un o'r ysgolion allai gau yn sgil adolygiad o addysg cynradd yr ardal

Mae cynghorydd yng Ngheredigion yn rhybuddio y gallai pentrefi de'r sir "wywo" os yw ysgolion bach lleol yn cau.

Mae cabinet cyngor y sir yn cwrdd ddydd Mawrth i ystyried opsiynau o ran ad-drefnu ysgolion cynradd yn ardal Aberteifi.

O dan un opsiwn byddai pedair ysgol - Beulah, Cenarth, Trewen a Llechryd - yn cau.

Yn ôl y cynghorydd Alun Lloyd Jones, sydd ar bwyllgor cymunedau sy'n dysgu, gallai colli'r ysgolion olygu colli gwasanaethau a busnesau eraill hefyd.

Cau pedair ysgol?

Bwriad yr adolygiad o ysgolion yn ne Ceredigion, dolen allanol yw ystyried sut mae "gwella'r sefyllfa o ran sicrhau bod digon o lefydd addas ar gael mewn ysgolion" a "gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cost yr ystad addysg".

Mae wyth ysgol yn rhan o'r adolygiad, sef ysgolion Aberporth, Beulah, Aberteifi, Cenarth, Llechryd, Penparc, T Llew Jones a Threwen.

O'r rheiny mae tair ysgol - Trewen, Cenarth a Beulah - eisoes yn rhan o "ffederasiwn meddal", sy'n golygu eu bod nhw'n rhannu pennaeth ond â'u cyllid a chyrff llywodraethol ar wahân.

Byddai'r opsiwn mwyaf llym yn golygu chwalu'r ffederasiwn honno a chau ysgolion Beulah, Cenarth, Trewen a Llechryd a chreu ysgol ardal newydd ar y safle mwyaf addas o'r pedwar safle ysgol presennol neu ar safle newydd.

Mae'r adroddiad i'r cabinet yn nodi mai'r opsiwn hwnnw mae pwyllgor trosolwg a chraffu cymunedau sy'n dysgu yn ei ffafrio, ar yr amod bod cyllid cyfalaf ar gael. Y pum opsiwn arall yw:

  • Parhau gyda'r sefyllfa bresennol;

  • Cau Ysgol Beulah a gostwng nifer yr ysgolion yn y ffederasiwn;

  • Cau Ysgol Trewen a gostwng nifer yr ysgolion yn y ffederasiwn;

  • Cau Ysgol Beulah ac Ysgol Trewen a chwalu'r ffederasiwn;

  • Cau ysgolion Beulah, Cenarth a Threwen, chwalu'r ffederasiwn a chreu ysgol ardal newydd ar y safle mwyaf addas o'r tri safle ysgol presennol.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae 62% o gapasiti Ysgol Trewen yn wag, yn ôl yr adroddiad i gabinet y cyngor

Mae gan nifer o'r ysgolion allai gau lai o ddisgyblion na'u capasiti.

Yn ôl yr adroddiad i'r cabinet, dim ond 22 disgybl sydd yn Ysgol Trewen, sydd â chapasiti o 58 - gyfystyr â 62% o lefydd dros ben. Mae gan Ysgol Beulah 17 o ddisgyblion mewn capasiti o 41 - sydd gyfystyr â 59% dros ben.

Mae costau addysg mewn pump o'r wyth ysgol dan sylw hefyd yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y sir, sef £3,777 y disgybl. Yn Ysgol Beulah mae'r ffigwr yn £7,270 y disgybl.

'Dechre gwywo fel blodyn'

Ond yn ôl Alun Lloyd Jones, mae angen hefyd "ystyried faint mae'n gosti i gau ysgol", ynghyd â'r effaith ar y gymuned.

"Ydy, mae'n gostus falle i gael ysgol fach gydag 20 o blant ynddi hi, a chymharu hwnnw â rhywle sydd â 200, 300 neu 400 o blant, mae'n rhatach i gael yr addysg.

"Ond beth ydy'r effaith arall? Faint mae'n gosti i gau ysgol? Mae'n costi siop, falle. Mae'n costi tafarn i gau. Mae'n costi falle garej i gau.

"Achos unwaith mae bwrlwm yr ysgol fach yna yn cael ei dynnu allan o bentre', mae'r pentre'n dechre gwywo fel blodyn."

Ychwanegodd: "Dyw pobl ddim yn agor eu llygaid i weld beth fydd 'ma mewn 20-30 mlynedd yng nghefn gwlad Cymru."

Mae disgwyl i gabinet y cyngor ystyried y cynigion ddydd Mawrth a chymeradwyo un neu fwy ohonyn nhw fel bod y panel adolygu ysgolion yn gallu eu hystyried.

Byddai unrhyw benderfyniad terfynol ar ad-drefnu ysgolion yn cael ei wneud ddiwedd 2018.