Problem tipio sbwriel ar gynnydd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae gweithredu yn erbyn pobl sy'n tipio sbwriel ar ei lefel uchaf yng Nghymru ers 11 mlynedd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Yn 2016/17 fe wnaeth cynghorau weithredu 39,308 o weithiau, sy'n cynnwys erlyn, rhoi dirwyon yn y fan a'r lle a rhybuddio.
Roedd hynny'n gynnydd o 33% o'i gymharu â'r ffigwr o 29,621 ar gyfer y flwyddyn flaenorol.
Fe wnaeth astudiaeth gan Lywodraeth Cymru ddangos fod nifer yr achosion o waredu sbwriel yn anghyfreithlon wedi codi y llynedd, a chyn hynny roedd y ffigwr wedi bod yn gostwng am saith mlynedd.
Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) fod rhannu gwybodaeth ynghyd â chamerâu cylch cyfyng wedi bod o gymorth wrth ddal y rhai sydd wrthi.
38,614 o achosion
Cafodd 38,614 o achosion eu cofnodi'r llynedd o'i gymharu â 36,259 yn y flwyddyn flaenorol. Cafodd y lefel uchaf, 61,995, ei gofnodi yn 2007/08.
Yn y flwyddyn ariannol yn gorffen yn Ebrill 2017, y gost o glirio'r llanast oedd £2.2m.
Mae'r awdurdodau yn dweud fod y nifer wedi cynyddu oherwydd bod prisiau gwaredu drwy safleoedd tirlenwi wedi cynyddu.
Mae nawr yn costio £84.40 i waredu tunnell o wastraff masnachol.
Dywedodd llefarydd ar ran CLlLC: "Wrth i'r gost o waredu sbwriel yn gyfreithlon godi, felly mae perygl y bydd rhai yn ceisio twyllo'r system."
Dywedodd llefarydd ar ran Taclo Tipio Cymru, corff sy'n cael ei gydlynu gan gorff Cyfoeth Naturiol Cymru, eu bod yn croesawu'r cynnydd o bron i 70% yn y dirwyon gafodd eu rhoi y llynedd.
"Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd gyda chynghorau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau, gan gynnwys erlyn - sef y ffordd gorau i fynd i'r afael â'r rhai sy'n ailadrodd y drosedd neu ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu dylanwadu ar agwedd y cyhoedd tuag at dipio sbwriel drwy addysgu a chynyddu ymwybyddiaeth o fewn cymunedau lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2017
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2016