Bywyd newydd dros y dŵr i gyn-faer Bermo wedi Brexit

  • Cyhoeddwyd
John Sam
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl John Sam Jones mae pobl y pentref yn meddwl ei fod yn siarad "iaith od" am fod y cŵn ond yn deall Cymraeg!

Dros flwyddyn yn ôl fe benderfynodd John Sam Jones o'r Bermo a'i ŵr Jupp Korsten adael Cymru. Roedd y ddau yn awyddus i fynd yn sgil Brexit. Beth sydd wedi digwydd ers iddyn nhw godi eu pac? Cymru Fyw fu'n holi.

Gwerthu eu busnes gwely a brecwast a phacio eu bagiau i symud i'r haul mewn ychydig flynyddoedd oedd bwriad gwreiddiol John Sam Jones a'i ŵr Jupp Korsten.

Ond wedi canlyniad pleidlais ynglŷn ag aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd, fe benderfynon nhw fynd yn gynt nag oedden nhw wedi bwriadu.

"Ar ôl y refferendwm dyma ni'n penderfynu dod â'r cynllun ymlaen a rhoi'r tŷ ar werth, gan feddwl, wel ella gymrith flwyddyn, dwy flynedd i werthu'r tŷ. Ac yn wir fe werthodd y tŷ yn gyflym dros ben," meddai Mr Jones wrth Cymru Fyw.

I bentref Effeld yn Yr Almaen y gwnaethon nhw symud, ar ôl i frawd Jupp Korsten farw yn sydyn - pentref sydd reit ar y ffin gyda'r Iseldiroedd. Mae rhieni Jupp yn eu 80au a'i dad yn dioddef o Alzheimers.

Disgrifiad,

Hanes John Sam Jones a'i wr Jupp Korsten sydd wedi symud i Effeld yn yr Almaen.

Teimlo croeso

Roedd y "symud yn rhwydd iawn", meddai John Sam Jones, am eu bod yn gallu rhentu lle sy'n eiddo i rieni Jupp.

"'Dan ni yn byw ar yr un stryd, rhyw bedwar tŷ i ffwrdd. Felly 'dan ni'n gallu galw mewn rhyw dair, pedair, pum gwaith y diwrnod."

Ers symud mae'n dweud ei fod wedi ymgartrefu yn hawdd a'r croeso yn gynnes.

"Mae pawb wedi bod yn groesawgar dros ben," meddai.

"Ac mae 'na ryw werthfawrogiad bod ni wedi dod o Brydain i edrych ar ôl mam a dad, sydd yn bwysicach byth nag unrhyw sefyllfa byw sydd gennon ni."

Deall ei gilydd

Dyw gwneud hynny ddim yn faich i'r cwpl sydd wedi bod gyda'i gilydd ers 31 o flynyddoedd.

"Does 'na ddim elfen o 'oh my god da ni yn edrych ar eu hôl nhw'. 'Dan ni yma. 'Dan ni'n byw bywyd llawn."

Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd y cwpl y Nadolig yn Yr Almaen eleni

Mae Mr Jones yn treulio ei ddyddiau mynd â'r cŵn am dro ac yn cerdded gyda thad Jupp, sydd oherwydd ei afiechyd wedi dechrau siarad tafodiaith debyg i'r Iseldireg yr oedd yn siarad yn blentyn.

"Wedyn mae'n dipyn o hwyl, fi a fy nhad yng nghyfraith. Mae'n Almaeneg i yn go sâl. Mae o yn siarad y dafodiaith yma.

"Ac mae'r ddau ohonom ni jest yn chwerthin ac yn mynd am dro a'r un ohonom ni yn deall ein gilydd, ac eto yn deall ein gilydd ac yn cael hwyl efo'r cŵn."

Dysgu er mwyn perthyn

Does ganddyn nhw ddim hiraeth am Gymru, meddai, dim ond am y bobl sydd ar ôl, ond mae'n siarad yn gyson gyda ffrindiau.

Mae'n dal i gyfri ei hun yn Gymro hefyd, er ei fod yn teimlo'n ymwybodol iawn mai Prydeiniwr ydy o ar ddogfennau swyddogol.

"Dwi'n credu y ffordd fyswn i yn disgrifio fo, dwi'n gwybod be ydw i ar bapur ac mae gen i ryw deimlad Ewropeaidd sy'n bwysicach nag unrhyw beth sydd ar bapur."

Disgrifiad o’r llun,

Teimladau "cymysglyd" oedd gan Mr Jones pan wnaethon nhw adael Bermo am eu bod wedi cael blynyddoedd hapus yno

Er hynny mae'n cyfaddef ei fod yn teimlo rhywfaint allan ohoni, emosiwn mae o wedi teimlo o'r blaen pan fuodd yn byw yn America ar ddechrau'r 1980au. Mae dysgu Almaeneg yn help, meddai.

"Ar un lefel mae bod yn rhywun o'r tu allan yn sefyllfa eithaf priviledged hefyd achos mae rhywun yn gweld y byd mewn ffordd wahanol. Wedyn dwi ddim yn anghyfforddus efo hynny.

"Ond yn sicr bob wythnos, bob mis pan fyddai'n gweld cynnydd yn yr iaith mae 'na ryw deimlad mod i'n fwy integredig rhywsut."

Dysgu'r iaith i eraill yw gwaith Jupp Korsten ers symud yn ôl i'r pentref a'r cartref lle y cafodd ei fagu.

Dychwelyd adref?

"Mae o yn dysgu ar Nasa base cyfagos i ni, dysgu pobl ryngwladol, o bob rhan o Ewrop."

Bydd yn rhaid i John Sam Jones ddod yn rhugl yn yr iaith os bydd yn penderfynu ceisio dod yn ddinesydd Almaenig, rhywbeth mae'n ystyried gwneud os fydd yna Brexit caled.

Ers blynyddoedd mae o wedi bod ar feddyginiaeth oherwydd anhwylder efo'i galon ac yn ddiweddar bu'n rhaid iddo dreulio ychydig ddyddiau yn yr ysbyty yn cael llawdriniaeth.

Ond bellach mae o adref ac yn raddol gryfhau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jupp Korsten (chwith) a John Sam Jones (dde) yn bwriadu symud yn y pendraw i wlad boeth er mwyn cael ychydig o haul

Roedd y pâr priod wedi arfer ymweld â'r Almaen cyn symud i fyw yno.

Y bwriad yn yr hir dymor i'r ddau fydd byw gweddill eu dyddiau mewn gwlad boeth.

Ond dyw dychwelyd i'w famwlad ddim i weld yn opsiwn atyniadol, a hynny yn sgil pleidlais Brexit a phenderfyniad pobl Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd.

"'Never say never'. Dwi ddim yn gwybod be fysa'n goro digwydd i ni deimlo bod yr atyniad yna yn ôl i Gymru yn gryfach na'r brad dw i'n teimlo."