Cyngor i gefnogwyr rygbi gyrraedd Caerdydd yn fuan
- Cyhoeddwyd
Mae 'na gyngor i siopwyr a chefnogwyr rygbi gyrraedd Caerdydd yn gynnar ddydd Sadwrn.
Mae disgwyl prysurdeb yn y brifddinas wrth i 67,000 o bobl ddod i wylio tîm rygbi Cymru'n herio De Affrica yn Stadiwm Principality.
Fe fydd oedi hefyd ar y rheilffyrdd, gyda threnau rhwng Caerdydd a Llundain yn cymryd awr ychwanegol oherwydd gwaith ar y lein.
Bydd yr M4 i'r gorllewin hefyd ar gau yn ardal Casnewydd o 19:00.
Mae giatiau Stadiwm Principality yn agor am 11:00, gyda'r gêm yn cychwyn am 14:30.
Cyngor Undeb Rygbi Cymru yw i gefnogwyr gyrraedd yn fuan gan fod mwy o fesurau diogelwch ar waith, ac mae penaethiaid y stadiwm yn galw ar gefnogwyr i beidio dod â bagiau o gwbl gan fod gwaharddiad ar fagiau ac ymbarelau mawr.
Roedd ciwiau hir yng ngêm agoriadol Cyfres yr Hydref, gyda rhai o'r cefnogwyr yn methu'r gic gyntaf yn erbyn Awstralia.
Ffyrdd
Cau ffyrdd canol y ddinas am 11:00;
Bysiau Caerdydd yn cael eu dargyfeirio i osgoi canol y ddinas ac yn terfynu ar Ffordd Churchill, Heol y Brodyr Llwydion neu Tudor Street;
Bysiau hwyr tan 03:30 ar gael i gyfeiriad Trelái, Draenen Pen-y-graig, Llaneirwg a Phontprennau;
Yr M4 i'r gorllewin ar gau o 19:00.
Trenau
Mwy o drenau GWR i bob cyfeiriad ond gwaith atgyweirio yn golygu oedi rhwng Caerdydd a Llundain;
Gofyn i deithwyr ar wasanaethau lleol ac i gyfeiriad y cymoedd ddefnyddio gorsaf Heol y Frenhines yn dilyn y gêm.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2017