Prifysgol Aberystwyth yn penderfynu cau campws Mauritius
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Aberystwyth ar fin cau eu campws ar ynys Mauritius yng Nghefnfor India, ddwy flynedd ar ôl ei agor.
Mae corff llywodraethol y coleg wedi penderfynu na fyddan nhw'n "cofrestru rhagor o fyfyrwyr" ar y campws o Fawrth 2018 ymlaen.
Yn yr ail flwyddyn, 106 o fyfyrwyr wnaeth gofrestru i astudio ym Mauritius, er bod lle i 2,000.
Dywedodd Prifysgol Aberystwyth nad oedden nhw am wneud sylw.
'Dim awydd'
Cafodd y wybodaeth ei gyhoeddi mewn cofnod o gyfarfod cyngor y brifysgol ym mis Hydref, sydd bellach wedi cael eu tynnu oddi ar y wefan.
Roedd y rheiny yn dweud: "Mae trafodaethau gydag adrannau academaidd sy'n darparu rhaglenni yng nghampws Mautiritus wedi dangos nad oedd yna awydd derbyn myfyrwyr newydd ym mis Mawrth 2018."
Ychwanegodd: "Ni fydd y brifysgol yn cofrestru rhagor o fyfyrwyr yn y campws."
Fe wnaeth y sefydliad golled o bron i £200,000 o'r fenter yn ystod y flwyddyn gynta', yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Dyw'r ystadegau ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17 heb eu cyhoeddi eto.
Daeth cyhoeddiad ym mis Hydref y bydd 11 o swyddi academaidd yn cael eu colli yn y brifysgol wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion o £6m yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Fe ddisgrifiodd cyn is-ganghellor y brifysgol, yr Athro Derec Llwyd Morgan, y penderfyniad o sefydlu'r campws ym Mauritius fel un "gwirion bost" ar ôl iddi ddod i'r amlwg mai 40 o fyfyrwyr gofrestrodd yno yn ystod y flwyddyn academaidd gyntaf.
Roedd Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas hefyd wedi galw ar y brifysgol i "dynnu'r plwg" ar y campws.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mai 2016
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2017