Swyddfeydd tramor newydd 'angen cefnogaeth'

  • Cyhoeddwyd
Fflagiau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn agor swyddfeydd yn Canada, Ffrainc, Qatar a'r Almaen

Gall Llywodraeth Cymru ddim disgwyl i'w swyddfeydd newydd dramor lwyddo ar eu pennau eu hunain a bydd yn rhaid rhoi cefnogaeth iddyn nhw, yn ôl cyn-weinidog masnach Prydain.

Ddydd Llun fe gyhoeddodd y llywodraeth y bydd pump o swyddfeydd newydd yn agor mewn pedair gwlad wahanol y flwyddyn nesaf.

Rhybuddiodd yr Arglwydd Digby Jones bod perygl y gallai gweithwyr sifil yng Nghymru "laesu dwylo" ar ôl i hynny ddigwydd.

Dywedodd Ysgrifennydd Economi Cymru bod y llywodraeth yn buddsoddi mewn gwledydd ble mae "gwir botensial ar gyfer mwy o allforion".

'Creu cysylltiadau'

Bydd y swyddfeydd newydd yn Doha, Dusseldorf, Berlin, Paris a Montreal.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates wrth Sunday Politics Wales: "Rydyn ni wedi dewis pum swyddfa newydd mewn lleoliadau strategol ble rydyn ni'n gwybod bod gwir botensial ar gyfer mwy o allforion a ble mae'n hollbwysig ein bod ni'n creu rhwydweithiau a chysylltiadau."

Yn siarad â'r un rhaglen dywedodd yr Arglwydd Jones, oedd yn weinidog masnach rhwng 2007-08 ei fod yn "obeithiol" y byddai penderfyniad Llywodraeth Cymru'n llwyddo ond fe rybuddiodd bod swyddfa "ddim ond cystal â'r mewnbwn iddi a'r cynnyrch sydd ganddi i'w werthu".

"Mae swyddfa'n gatalydd da ond all hi ddim gwneud popeth ar ei phen ei hun," meddai.

Rhybuddiodd hefyd bod yn rhaid bod yn "ofalus" pan fo swyddfa'n agor "nad ydy'r gweithwyr yn ôl yma'n llaesu dwylo achos eu bod nhw'n credu bod y swyddfa newydd bellach yn gwneud popeth".

'Ymwybodol o'n disgwyliadau'

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price y byddai'r swyddfeydd newydd yn ffenestri siop i Gymru ond bod "angen rhywbeth y mae pobl am ei brynu i'w roi yn y ffenestri".

"Mae angen presenoldeb corfforol, oes, ond mae angen strategaeth glir hefyd a dyna sydd ar goll," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr Arglwydd Digby Jones yn arfer bod yn brif gyfarwyddwr y CBI

Mae cwestiynau wedi codi am effeithiolrwydd y swyddfeydd dramor ar ôl i Ffederasiwn y Busnesau Bach gyfeirio at ystadegau sy'n dangos bod allforion wedi cwympo i'r gwledydd ble mae swyddfeydd yn barod.

Mae Llywodraeth Cymru'n gwrthod y dystiolaeth ond dywedodd Mr Skates y bydd ffyn mesur newydd yn cael eu cyflwyno i asesu llwyddiant y swyddfeydd yn y dyfodol.

Sunday Politics, BBC One Wales am 11:00 ddydd Sul, 3 Rhagfyr.