'Y nifer sy'n disgwyl yn hir am driniaeth am haneru'
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru'n dweud ei fod yn disgwyl i nifer y cleifion sy'n disgwyl dros naw mis am driniaeth ysbyty yn y gogledd haneru erbyn mis Mawrth.
Daw'r broffwydoliaeth uchelgeisiol wrth i bryder gynyddu am amseroedd aros ym mwrdd iechyd mwyaf Cymru, Betsi Cadwaladr.
Mae'r ffigyrau diweddaraf, o fis Medi, yn dangos bod 9% o gleifion y gogledd wedi disgwyl yn hirach na naw mis am driniaeth.
Mae hyn dros ddwbl y cyfartaledd ledled Cymru, a dyma'r ffigwr uchaf ers i'r system bresennol ar gyfer mesur ystadegau gael ei chyflwyno.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig am y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, ac mae disgwyl iddo fod mewn diffyg ariannol o £36m y flwyddyn ariannol hon.
£13m ychwanegol
I roi'r ffigwr o 9% mewn cyd-destun, dim ond 1.2% o gleifion fu'n disgwyl am dros naw mis yng Nghaerdydd a'r Fro, a'r cyfartaledd ledled Cymru yw 4.4%.
Bu mwy na 11% o gleifion y gogledd yn disgwyl rhwng chwech a naw mis am driniaeth, ac fe wnaeth y gyfran gafodd eu trin o fewn chwe mis ostwng i lai na 80% am y tro cyntaf.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething bod gwelliannau wedi bod mewn adrannau fel gwasanaethau mamolaeth ac effeithiolrwydd y bwrdd.
Ond ychwanegodd ei fod wedi'i siomi gan y cynnydd mewn problemau ariannol ac o ran perfformiad dros y chwe mis diwethaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y bwrdd iechyd yn hyderus, trwy fuddsoddi £13m yn rhagor tuag at restrau aros, y gall leihau nifer y cleifion sy'n disgwyl dros naw mis o 8,982 i 4,237.
'Y galw yn fwy na'n capasiti'
Roedd dogfen gafodd ei gyflwyno i'r bwrdd fis diwethaf yn dweud bod Betsi Cadwaladr yn "un o'r sefydliadau sy'n perfformio orau yng Nghymru ar faterion megis amseroedd aros canser a diagnosis".
Ond ychwanegodd: "Er hynny, mae gennym nifer o arbenigeddau ble mae'r galw yn fwy na'n capasiti, gydag amseroedd aros hirach o ganlyniad."
Aeth ymlaen i ddweud y byddai rhagor o gyllid gan Lywodraeth Cymru yn ei alluogi i dorri nifer y cleifion sy'n disgwyl dros naw mis am driniaeth 53%.
Ychwanegodd hefyd y gallai haneru'r nifer sy'n disgwyl dros flwyddyn, a sicrhau bod neb yn disgwyl mwy na deufis am ddiagnosteg neu bythefnos am therapi.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Angela Burns ei bod yn croesawu uchelgais y llywodraeth ond ei bod yn anodd gweld sut y gall cyflawni hyn heb esgeuluso ardaloedd eraill o ofal.
Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod mwy o ddiddordeb ganddo mewn "canlyniadau yn hytrach na phroffwydoliaeth, yn enwedig gan ein bod wedi clywed gormod o addewidion gwag yn y gorffennol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd11 Mai 2017