Y diddanwr a'r darlledwr Idris Charles wedi marw yn 74 oed

  • Cyhoeddwyd
Idris CharlesFfynhonnell y llun, Idris Charles

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r diddanwr Idris Charles yn dilyn ei farwolaeth yn 74 oed.

Roedd yn llais cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru fel cyflwynydd rhaglen 'Idris ar y Sul' a 'Cadair Idris'.

Yn wreiddiol o Fodffordd ar Ynys Môn, roedd yn fab i'r actor a'r diddanwr, y diweddar Charles Williams.

Roedd hefyd yn sylwebydd cyson ar gemau pêl-droed yn ogystal â chynhyrchu a chyfarwyddo rhaglenni Wedi 7 i gwmni Tinopolis.

Byddai rhai efallai yn ei gofio'n gwerthu hufen iâ neu'n eu dysgu sut i yrru car yn ardal Yr Wyddgrug, ble symudodd yn 1986.

Mae'n gadael ei wraig, Ceri, a dau o feibion, Iwan ac Owain.

Roedd Idris Charles yn gyflwynydd poblogaidd o Nosweithiau Llawen ledled Cymru a fe ddisgrifiodd yn ei hunangofiant ei fod wedi profi'r "enedigaeth wyrthiol" o'r ddeuawd Tony ac Aloma.

Bu'n perfformio gyda'r ddeuawd am dros ddeugain mlynedd ac roedd yn ffrind agos i'r ddau.

Disgrifiad o’r llun,

Idris yn eistedd ar ei gadair yn 1998

Yn ogystal â pherfformio ar lwyfannau roedd hefyd yn ysgrifennu deunydd comedi ar gyfer perfformwyr eraill.

Fe wnaeth y diweddar Bobby Ball - un hanner o'r ddeuawd gomedi Cannon and Ball - ei ddisgrifio fel un o'r ysgrifenwyr comedi gorau yn y wlad.

'Cawr o gomedïwr'

Roedd yn gyfrifol am greu'r rhaglen gomedi 'Jocars' ar S4C gyda'i gyfaill Elwyn Williams.

Un oedd yn ymddangos yn gyson ar y rhaglen oedd y comedïwr o'r Bala, Dilwyn Morgan, a ddisgrifiodd Idris Charles fel "cawr o gomedian".

"Heb os Idris wnaeth imi sylweddoli fod rhaid gweithio yn galed i fod yn ddoniol," meddai Mr Morgan.

"I mi Idris oedd un o'r arloeswyr wnaeth lusgo comedi o'r llofft stabl i boblogrwydd y llwyfan a'r sgrin fach.

"Cawr o gomedian oedd yn pregethu pa mor bwysig oedd agwedd broffesiynol i wneud i bobl chwerthin.

"'Dysgwch eich stwff bois bach' fydda fo'n ddeud wrtha ni o hyd."

Ffynhonnell y llun, Idris charles

Symudodd Idris Charles i Gasnewydd yn 2003, ac roedd yn gefnogwr o'r clwb pêl-droed yno.

Rhwng 2004 a 2012 bu'n gweithio i Tinopolis ar raglen nosweithiol Wedi 7.

Dywedodd y gyflwynwraig Angharad Mair ei bod hi'n "fraint anferthol cael cyd-weithio gyda Idris Charles".

"Roedd e'n fythol ifanc, gydag egni a brwdfrydedd heintus a dawn i greu eitemau difyr, adloniannol bob tro," meddai.

"Roedd hefyd yn cymryd diddordeb mawr yn y staff ifanc, ac yn aml yn codi'r ffôn i roi anogaeth a chyngor amhrisiadwy - ond mewn ffordd dawel a diymhongar."

'Amrywiaeth o dalentau'

Wrth siarad ar BBC Radio Cymru ychwanegodd ei fod yn "ddiddanwr penigamp [a] chwbl naturiol".

"Roedd e'n ddoniol a ffraeth, ac yn hoff o ddiddanu pobl," meddai. "Roedd e'n ddyn anhunanol tu hwnt, bob amser isie i bobl eraill serennu.

"Roedd e am i bobl gael eu diddanu yn Gymraeg, o'dd e am i Gymru fod yn le cyffrous i bobl ifanc."

Disgrifiad o’r llun,

Fe siaradodd Idris Charles am ei fywyd ar raglen Dewi Llwyd ym mis Rhagfyr 2016

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C fod "Cymru wedi colli cymeriad a oedd yn llawn angerdd am bobl ei wlad ac yn deall beth oedd stori dda allai ddal dychymyg gwylwyr".

"Roedd Idris Charles yn ddyn ag amrywiaeth o dalentau, ac roedd yn eu dangos ar deledu a radio wrth gyflwyno, actio, cynhyrchu, cyfarwyddo, ffilmio a sylwebu ar y maes chwarae.

"Roedd popeth a gynhyrchodd ar gyfer S4C, gyda thimau cynhyrchu HTV, Tinopolis a chynhyrchwyr annibynnol eraill, yn anelu at ddarparu adloniant poblogaidd o safon uchel.

"Fe fydd yna golled ar ei ôl ymysg gwylwyr, gwrandawyr a phobl yn y diwydiannau creadigol."

'Egni rhyfeddol'

Dywedodd Dafydd Meredydd, Golygydd Cynnwys BBC Radio Cymru fod cyfraniad Idris Charles wedi bod yn un "enfawr".

"Roedd ei egni yn rhyfeddol, ei frwdfrydedd yn heintus, ei gefnogaeth barhaus yn hwb i nifer yn ein diwydiant, a'i agwedd yn addysg wrth iddo roi'r gynulleidfa wrth galon popeth yr oedd yn ei wneud," meddai.

"Mae hi'n golled fawr ac mae ei deulu yn flaenllaw yn ein meddyliau."

Ychwanegodd y cynhyrchydd a'r cyflwynydd Terwyn Davies mewn neges ar Twitter ei fod wedi cael y "fraint" o gydweithio ag Idris Charles.

"Dyddiau hapus a wedi dysgu llawer yn eich cwmni," meddai. "Coffa da am ddarlledwr fydde wastad yn gwneud i mi chwerthin."

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Angharad Mair

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Angharad Mair
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 2 gan Elin Fflur

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 2 gan Elin Fflur
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 3 gan Elin Maher

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 3 gan Elin Maher
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 4 gan Teodoro Baglafo

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 4 gan Teodoro Baglafo
Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter 5 gan Dafydd Iwan

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter 5 gan Dafydd Iwan

Pynciau cysylltiedig

Hefyd gan y BBC