£68m i agor canolfannau iechyd yn y gymuned ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r ysgrifennydd iechyd wedi cyhoeddi cynlluniau i ddarparu 19 o ganolfannau iechyd a gofal ar draws Cymru.
Mae £68m wedi ei neilltuo ar gyfer y canolfannau - y buddsoddiad mwyaf mewn seilwaith ar gyfer gofal yn y gymuned, medd Llywodraeth Cymru.
Y nod yw darparu gwasanaethau iechyd a gofal yn agos i gartrefi pobl.
Er yn croesawu'r cynllun, mae llefarydd ar ran Pwyllgor Meddygon Teulu y Cyngor Meddygol Cyffredinol yng Nghymru yn poeni nad oes digon o ymgynghori wedi bod gyda chlinigwyr ar lefel leol.
Gofal yn y gymuned
Bydd canolfannau newydd yn cael eu hadeiladu ar sail ceisiadau llwyddiannus gan fyrddau iechyd, ond bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i ailddatblygu safleoedd sy'n bodoli'n barod.
Mae byrddau iechyd yn gobeithio cydweithio gyda chyrff eraill fel cynghorau lleol a mudiadau gwirfoddol i gynnig ystod o wasanaethau gofal i gleifion yn yr adeiladau.
Mae'r llywodraeth yn dweud mai rhan gyntaf y gwaith fydd adnewyddu safleoedd y gwasanaeth iechyd gan gynnwys Canolfan Iechyd Pen-clawdd, Canolfan Adnoddau Dwyrain Casnewydd, Clinig/Ysbyty yn Sir Ddinbych a Canolfan Gofal Sylfaenol Llanfair Caereinon.
Y nod yw cwblhau'r ail-ddatblygu erbyn 2021.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething bod pobl yn "disgwyl cael eu trin mewn canolfannau gofal iechyd modern a chyfoes sy'n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau o dan yr un to".
"Rydyn ninnau'n cytuno, a thrwy dargedu'r buddsoddiad fel hyn, y gobaith yw gwireddu'r cyfleoedd sydd ar gael i wneud newidiadau i wasanaethau.
"Rydyn ni'n ariannu dyfodol gofal iechyd yng Nghymru, a bydd y gyfres o brosiectau rwy'n eu cyhoeddi heddiw yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran darparu gofal i bobl yn eu cymunedau eu hunain ac yn agosach at eu cartrefi."
'Anodd asesu'r effaith'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd y Dr Charlotte Jones, cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu y Cyngor Meddygol Cyffredinol yng Nghymru, ei bod yn awyddus i glywed rhagor o fanylion am y cynlluniau.
"Byddem yn croesawu gwybodaeth am ddosraniad yr arian a sut bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud o ran dosbarthu'r prosiectau." meddai.
"Tra'n bod ni'n croesawu gwell mynediad i wasanaethau'n agosach i gartrefi pobl, mae'n anodd asesu'r effaith y caiff hyn heb wybod y manylion am sut y bydd yn gweithio.
"Mae'n achos pryder i ni fod ymateb cychwynnol aelodau'r pwyllgorau iechyd lleol yn awgrymu nad ydyn nhw wedi bod yn rhan o gynllunio'r cynllun.
"Mae'n hanfodol fod clinigwyr lleol, sy'n deall anghenion y gymuned leol, yn rhan o gynllunio'r gwasanaeth er mwyn sicrhau fod cleifion yn cael y gwasanaethau y maen nhw'n eu haeddu."