Brexit: '10 AS o Ogledd Iwerddon yn rheoli'r wlad'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi beirniadu arweinyddiaeth Theresa May a holi ai "deg AS o Ogledd Iwerddon sydd yn rheoli" y wlad.
Roedd Mr Jones yn ymateb i fethiant Prif Weinidog y DU i ddod i gytundeb ar Brexit gyda'r UE, yn dilyn gwrthwynebiad y DUP i gynigion ar gyfer y ffin yn Iwerddon.
Fe wnaeth ailadrodd ei sylwadau blaenorol na ddylai unrhyw ran o'r DU "gael ei thrin yn fwy ffafriol nag eraill", yn dilyn sôn y gallai Gogledd Iwerddon gael setliad arbennig.
Ar yr un pryd yn San Steffan, mynnodd Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth y DU, David Davis y byddai pob rhan o'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar yr un telerau.
'Cysoni rheoliadau'
Cafodd y mater ei drafod mewn Cwestiwn Brys yn y Cynulliad brynhawn Mawrth, gydag arweinydd grŵp UKIP Neil Hamilton yn dweud ei fod yn brawf fod gan "lond llaw" o ASau'r DUP fwy o ddylanwad na Llywodraeth Cymru.
Mae Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd (DUP) yng Ngogledd Iwerddon wedi taro bargen â llywodraeth leiafrifol Theresa May yn San Steffan er mwyn cynorthwyo'r Ceidwadwyr gyda phleidleisiau allweddol.
Fe wnaeth y blaid ddryllio cytundeb rhwng y DU a'r UE ddydd Llun yn rhan gyntaf y trafodaethau fyddai wedi sefydlu cysondeb o ran rheoliadau rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon.
Bwriad sefydlu'r cysondeb hwnnw fyddai er mwyn osgoi'r angen am rwystrau ar y ffin rhwng y ddwy wlad yn dilyn Brexit.
Ond mae gwleidyddion Cymreig wedi codi pryderon y gallai hynny olygu ffin galetach ym Môr Iwerddon, gan effeithio'n fawr ar borthladdoedd Cymru.
Wrth ymateb yn y Senedd, dywedodd Carwyn Jones fod Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon yn rhannu pryderon gweinidogion yng Nghaerdydd.
"Y peth olaf maen nhw eisiau ei weld yw ffin galed rhwng Cymru ac Iwerddon fel ffin forol," meddai.
"Mae gan Lywodraeth y DU ddyletswydd i sicrhau cytundeb sydd yn dda ar gyfer y DU gyfan.
Ychwanegodd: "Mae'n amlwg ddoe eu bod nhw'n edrych i geisio trefnu cytundeb arbennig neu statws arbennig ar gyfer Gogledd Iwerddon."
Dywedodd yr AC Ceidwadol, Mark Isherwood fod gweinidogion yn San Steffan a Dulyn wedi awgrymu, ers i'r trafodaethau fethu, na fyddai ffin galed rhwng Prydain ac ynys Iwerddon.
Mynnodd Rhun ap Iorwerth y byddai ffin galed yn y môr yn golygu "goblygiadau difrifol iawn" i borthladdoedd fel Caergybi, a bod Plaid Cymru o blaid aros yn y Farchnad Sengl a'r Undeb Dollau.
Ychwanegodd arweinydd y blaid, Leanne Wood fod eu ASau nhw wedi pleidleisio o blaid hynny yn San Steffan, ond nad oedd ASau Llafur Cymru wedi gwneud yr un peth.
"Dyw Llafur ddim yn ymddwyn fel gwrthblaid go iawn yn San Steffan ar y mater. Mae angen iddyn nhw ei siapio hi a gweithio er lles buddiannau cenedlaethol Cymru," meddai.
Mewn ymateb cyfaddefodd Carwyn Jones fod "safbwyntiau gwahanol o fewn fy mhlaid yn Llundain ac mae pobl yn gwybod am y safbwyntiau hynny".
"Ond fy marn i, fel Prif Weinidog, yw ei bod hi'n well i ni aros yn yr Undeb Dollau a chael y mynediad yna i'r Farchnad Sengl."
'Y wlad gyfan'
Yn y cyfamser mae David Davis wedi cyhuddo Mr Jones o ddweud "anwireddau" wrth awgrymu fod Llywodraeth y DU yn paratoi i roi amodau arbennig i Ogledd Iwerddon.
"Dyw hynny'n bendant ddim yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn ei ystyried," meddai'r Ysgrifennydd Brexit yn Nhŷ'r Cyffredin.
"Felly pan mae Prif Weinidog Cymru yn cwyno am y peth... mae'n gwneud camgymeriad gwirion.
"Fyddai llywodraeth y DU fyth yn caniatáu'r fath beth, heb sôn am un Geidwadol ac Unoliaethol."
Ychwanegodd y byddai unrhyw gytundeb ar gysoni rheoliadau rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon "yn weithredol ar gyfer y wlad gyfan".