Carwyn Jones yn gwadu derbyn cwyn gan Leighton Andrews

  • Cyhoeddwyd
carwyn jones

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi gwadu unwaith eto ei fod wedi derbyn unrhyw gwynion gan y cyn-weinidog Leighton Andrews yn 2014 am ymddygiad staff Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn marwolaeth y cyn-weinidog Carl Sargeant, dywedodd Mr Andrews fod diwylliant o fwlio o fewn y llywodraeth ar y pryd.

Daeth sylwadau Mr Jones yn ystod sesiwn Holi'r Prif Weinidog mewn ymateb i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies.

Gofynnodd Mr Davies: "A wnaeth Leighton Andrews gŵyn o unrhyw natur yn 2014 am ymddygiad aelodau o staff o fewn Llywodraeth Cymru neu eich swyddfa chi?"

Neges Twitter

Cafodd hynny ei wadu gan y Prif Weinidog mewn ateb un gair: "Na."

Ond fe wnaeth Mr Andrews herio hynny wedyn ar Twitter, gan ddweud: "Ym mis Tachwedd 2014, fe ddywedais i wrth y Prif Weinidog wyneb i wyneb mod i'n credu fod y cod [ymddygiad] ar gyfer ymgynghorwyr arbennig wedi cael ei dorri.

"Fe wnes i ofyn iddo gynnal ymchwiliad ffurfiol. Dywedodd y byddai."

andrew rt davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr honiadau o fwlio yn ganolobwynt i gwestiynau Andrew RT Davies yn sesiwn Holi'r Prif Weinidog unwaith eto

Cafodd y neges honno ei darllen allan yn y Siambr yn ddiweddarach gan AC Plaid Cymru, Simon Thomas.

Gwadu unwaith eto wnaeth y Prif Weinidog, ond er i'w ateb gael ei glywed yn glir doedd o ddim wedi'i gofnodi ar y record yn ffurfiol.

Mewn cyfweliad pellach â BBC Cymru ddydd Mawrth, dywedodd nad oedd hyd yn oed yn gwybod beth oedd y cyhuddiadau honedig yr oedd Leighton Andrews wedi eu gwneud.

"Roedd Leighton yn ddigon hapus i aros yn y llywodraeth, ac i wasanaethu yn y llywodraeth ar ôl 2014," meddai.

"Felly pam nawr dweud y pethau hyn?"

Leighton Andrews
Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn Jones yn dweud nad yw'n ymwybodol o'r honiadau y mae Leighton Andrews wedi eu gwneud

Gwadodd unwaith eto fod unrhyw honiadau o "fwlio" wedi eu gwneud, a bod Mr Andrews wedi cyflwyno cwyn o unrhyw fath.

"Ym mha ffordd alla i fel prif weinidog ystyried ei gwynion e, os dydw i ddim yn gwybod beth ydyn nhw?"

'Dim dewis'

Cafodd Carl Sargeant ei ddiswyddo fel gweinidog cabinet fis diwethaf yn dilyn honiadau o ymddygiad amhriodol gyda menywod, a'i ganfod yn farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Dywedodd Carwyn Jones fod y cyn-Ysgrifennydd Cymunedau wedi ei ddiswyddo oherwydd y cyhuddiadau, ac nid am unrhyw reswm arall.

"Unwaith roedd y cyhuddiadau wedi cael eu gwneud, wedi eu checio, doedd dim dewis ond symud 'mlaen i'r cam nesaf sef rhoi'r cyhuddiadau i'r blaid Lafur yn Llundain," meddai.

Pe bai wedi ymddiswyddo fel Prif Weinidog yn sgil marwolaeth Mr Sargeant, meddai, byddai pobl wedi dehongli hynny fel cydnabyddiaeth fod "bai" arno.

"Dwi wedi gofyn y cwestiwn sawl gwaith i fy hunan ym mha ffordd alla i fod wedi gwneud rhywbeth yn wahanol, a dwi ddim yn gweld pa lwybr arall allen i fod wedi ei ddilyn," ychwanegodd.