Pêl-droed Cymru: 'Nid Sais' fydd y rheolwr nesaf

  • Cyhoeddwyd
Jonathan FordFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford wedi dweud nad Sais fydd rheolwr nesaf y tîm cenedlaethol.

Mae'r Gymdeithas yn gobeithio penodi olynydd i Chris Coleman erbyn diwedd mis Ionawr, pan fydd yr enwau'n cael eu tynnu o'r het ar gyfer cystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd ar 24 Ionawr.

"Rydym wastad wedi ffafrio Cymry gan fod yr angerdd yna," meddai Mr Ford.

"Fe ddywedodd rhywun yn gynharach: Cymro yn sicr, tramorwr o bosib, ond yn sicr nid Sais."

'Amser'

Mae'r chwe rheolwr diwethaf ar Gymru, gan gynnwys y rhai dros dro, wedi bod yn Gymry. Y Sais Bobby Gould (1995-99) oedd y rheolwr diwethaf oedd ddim yn Gymro.

Gadawodd Chris Coleman y swydd yn dilyn methiant Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2018 yn Rwsia'r haf nesa'.

Does gan Gymru ddim gêm nes cystadleuaeth Cwpan China ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Daeth cadarnhad y bydd Cymru'n agor y gystadleuaeth honno drwy wynebu'r tîm cartref yn Nanning ar 22 Mawrth.

"Mae gennym ychydig o amser i fynd drwy broses drylwyr o ddewis ein rheolwr newydd tua diwedd y flwyddyn neu ddechrau'r flwyddyn nesaf," ychwanegodd Mr Ford.

"Mae'r enwau'n dod o'r het ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd ddiwedd Ionawr, ac fe fyddai'n braf medru mynd â'r rheolwr newydd i'r digwyddiad, felly mae hynny'n rhoi syniad o'n hamserlen ni."

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Ers i Gymru fethu â chyrraedd Cwpan y Byd 2018, mae Chris Coleman wedi gadael er mwyn cymryd swydd fel rheolwr Sunderland

Mae is-reolwr y tîm, Osian Roberts ynghyd â'r cyn-chwaraewyr Craig Bellamy a John Hartson wedi mynegi diddordeb yn y swydd, ac mae Ryan Giggs a Tony Pulis - gafodd ei ddiswyddo fel rheolwr West Brom yn ddiweddar - hefyd wedi eu crybwyll ymysg y ffefrynnau.

Dywedodd Mr Ford nad oedd unrhyw ddrwgdeimlad tuag at Chris Coleman, oedd wedi sôn am "wahaniaeth" barn rhyngddo fo a'r Gymdeithas wrth adael i gymryd swydd Sunderland.

Wrth siarad am y tro cyntaf ers ymadawiad Coleman, dywedodd Mr Ford: "Rydym yn oedolion. Roedd y ddwy ochr am gael cytundeb, ond doedd e ddim i fod.

"Yn y diwedd fedrwch chi ddim gorfodi pobl i wneud y swydd, ac rydyn ni'n dymuno pob lwc i Chris yn y dyfodol.

"Fe wnaeth e job wych yma. Hanesyddol, yn sicr. Chwedlonol, yn sicr. Mae gennym lawer i fod yn ddiolchgar amdano.

"Fe gymrodd yr awenau mewn cyfnod anodd iawn, a'n gadael mewn lle gwahanol iawn. Rydym wrth ein bodd gyda'r hyn a wnaeth e, ac yn dymuno'r gorau iddo."