Abertawe'n gobeithio am deitl Dinas Diwylliant y DU

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pam fod Abertawe yn lle mor arbennig?

Bydd Abertawe yn clywed nos Iau a ydy'r ddinas wedi llwyddo i ennill yr hawl i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2021.

John Glen, Gweinidog Celfyddydau a Diwylliant Llywodraeth Prydain, fydd yn cyhoeddi'r enillydd yn fyw ar raglen The One Show.

Y dinasoedd eraill sydd ar y rhestr fer yw Sunderland, Coventry, Stoke-on-Trent a Paisley, a'r dref yn Yr Alban ydy ffefryn bwcis Ladbrokes.

Er hynny, does yna ddim un ffefryn clir gyda bwcis gwahanol yn methu â dewis rhwng Paisley a Coventry.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Hull ydi'r ddinas diwylliant presennol, ac mae yna amcangyfrif bod y statws wedi rhoi hwb o £60m i'r ddinas.

Cafodd cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU ei chreu ar ôl llwyddiant Lerpwl fel Prifddinas Diwylliant Ewrop yn 2008.

Fe welodd y ddinas fuddsoddiad o £800m, a gafodd ei ddefnyddio i adfywio nifer o strydoedd, adeiladau a gorsafoedd rheilffordd.

Yn ogystal fe ddaeth 9.7m yn rhagor o ymwelwyr yn ystod y flwyddyn 2008 - cynnydd o 35%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bont hon yn un eiconaidd yn ninas Abertawe

Ceisiadau'r dinasoedd ar y rhestr fer

  • Mae cais Sunderland yn cyfeirio at fuddsoddiad o £10m i ddatblygu ardal gelfyddydol gan gynnwys canolfan gelf mewn hen orsaf dân.

  • Coventry ydy man geni'r bardd, Philip Larkin, ac mae'r tîm y tu ôl i'r cais yn dweud bod hyn yn "gyfle i newid meddyliau pobol am y ddinas."

  • Llestri (a Robbie Williams) yw cynnyrch enwocaf Stoke-on-Trent ac mae'r trefnwyr yn gobeithio manteisio ar dreftadaeth diwydiant crochendai'r ddinas fel Emma Bridgwater, Spode a Portmeirion.

  • Paisley ydy'r lle cafodd yr actor David Tennant ei fagu ac mae tad Paolo Nutini yn rhedeg siop bysgod a sglodion yno. Mae cynlluniau i wario £42m ar Amgueddfa Paisley, ond fydd y newidiadau ddim i'w gweld tan 2022!

  • Mae Abertawe wedi bod ar restr fer y gystadleuaeth o'r blaen, gyda rhaglen oedd yn pwysleisio cysylltiadau'r ddinas gyda Dylan Thomas. Ond ar ôl colli i Hull, mae yna lai o sylw i'r bardd yn y cais diweddaraf.

  • Ymhlith y digwyddiadau a gafodd eu hawgrymu i fod yn rhan o'r rhaglen waith mae cynhyrchiad gan Michael Sheen fyddai'n cael ei berfformio mewn lleoliadau o amgylch y ddinas.

  • Bydd cyfarwyddwr y ffilm Twin Town, Kevin Allen, yn cynhyrchu Sioe Gerdd wedi'i selio ar gymeriadau'r ddinas a bydd cân fwyaf enwog Bonnie Tyler, Total Eclipse of the Heart, yn cael ei pherfformio ar draeth Abertawe.

Cadeirydd y panel, Phil Redmond, sydd wedi bod yn ystyried yr holl geisiadau - crëwr rhaglenni teledu Brookside a Grange Hill.

"Ry'n ni'n ddinas ddiwylliannol," meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, aelod cabinet Cyngor Abertawe, sy'n gyfrifol am ddiwylliant.

"Mae'r ddinas yn gartref i unig dîm Cymru yn Uwchgynghrair Lloegr, oriel Glynn Vivian, Dylan Thomas, a phrydferthwch Gŵyr," meddai.

"Mae hi yn anodd. Mae gan bob un o'r dinasoedd ar y rhestr fer straeon tebyg i'w hadrodd," meddai Tracey McNulty, sydd wedi bod yn arwain cais Abertawe.

Disgrifiad o’r llun,

Michael Sheen yw un o'r enwogion sydd wedi cefnogi cais Abertawe

Ymhlith y bobl adnabyddus sydd wedi cefnogi cais Abertawe mae'r actor Michael Sheen, yr actor a'r cyflwynydd Rob Brydon a'r gantores Bonnie Tyler.

"Gallai hyn fod yn un o'r pethau pwysicaf i ddigwydd i Abertawe o ran buddsoddiad, swyddi a llewyrch," meddai prif weithredwr Rhanbarth Gwella Busnes Abertawe, Russell Greenslade.

"Mae nifer yr ymwelwyr a refeniw wedi cynyddu'n sylweddol, felly pe bai Abertawe'n ennill mae gennym lawer i'w ennill," meddai.