'Dim cynnydd' mewn diarddeliadau o Stadiwm Principality
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad o drefniadau Cyfres yr Hydref yn dweud bod dim cynnydd yn nifer y cefnogwyr gafodd orchymyn i adael Stadiwm Principality, er gwaethaf adroddiadau o ymddygiad gwael.
Roedd 'na alw ar bobl i fihafio gan Gomisiyndd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, wedi'r gêm rhwng Cymru a Seland Newydd .
Ac roedd 'na ymchwiliad hefyd yn dilyn honiadau bod cefnogwyr wedi sarhau cefnogwr anabl yn yr un gêm.
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn annog cefnogwyr i dynnu sylw stiwardiaid at ddigwyddiadau tebyg er mwyn gallu cymryd camau "sydyn a phriodol" yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol.
Dywedodd llefarydd eu bod yn ymwybodol bod heriau gwahanol pan fo gemau'n cychwyn yn hwyrach yn y dydd, ond bod dim lle i ymddygiad gwael yn y stadiwm ar unrhyw adeg.
'Tebyg i flynyddoedd eraill'
"Ar y cyfan, roedd nifer y rhai gafodd rybudd neu eu diarddel yn ystod cyfres yr hydref yn debyg i flynyddoedd eraill," meddai'r llefarydd.
"Ni chafodd rhai o'r digwyddiadau sydd wedi dod i'r amlwg yn y dyddiau a'r wythnosau wedi'r gemau diweddar eu crybwyll i'n stiwardiad ar y pryd."
Mae cefnogwyr wedi disgrifio achosion o oryfed alcohol, iaith anweddus a chamdriniaeth eiriol yn ystod gemau eleni.
Roedd Mark Bryan o Benarth ym Mro Morgannwg a'i bartner Louise McShane wrth ymyl 20 o gefnogwyr Seland Newydd a gafodd cerydd gan rywun am regi.
"Fe wnaethon nhw gymryd y peth mewn hwyliau da a stopio rhegi, ond pan sgoriodd Waisake Naholo ei ail gais fe redodd cefnogwr Cymru i lawr 20 rhes o seddi a dechre dyrnu wynebau'r hogia'," meddai.
'Trist'
Dywedodd John Savery ei fod wedi mynd i gemau rygbi rhyngwladol ers y 1970au ond ei fod wedi penderfynu stopio am fod yr awyrgylch wedi newid.
"Mae'n drist," meddai. "Mae rhai pobl mewn ffasiwn gyflwr doeddan nhw methu ffeindio'u seddi ac yn sefyll yn yr eiliau'n defnyddio'u ffonau ac yn atal pobl eraill rhag gweld dim."
"Liciwn i awgrymu taw one-off oedd e, ond rydyn ni wedi gweld digwyddiadau tebyg yng ngemau'r Chwe Gwlad."
Dywedodd Rhys Rogers iddo glywed "llif cyson o'r iaith waethaf bosib" gan ddwy ferch yn eu 20au cynnar tra'n gwylio gêm Awstralia gyda'i deulu.
"'Sa i'n meddwl mai alcohol yn unig oedd i gyfri' am y ffordd roedden nhw'n bihafio," meddai. "Roedd yn ymddangos fel eu bod yn meddwl bod hi'n hollol dderbyniol i'r bobl o'u cwmpas orfod gwrando ar y ffasiwn iaith.
"Rwy'n mynd i gemau rygbi ers dros 40 o flynyddoedd ond mae safon yr ymddygiad a'r awyrgylch yn Stadiwm Principality wedi dirywio'n raddol yn ddiweddar."
Dywedodd Sandie Hardwick bod pum dyn oedd yn eistedd y tu ôl iddi wedi amharu ar y profiad o wylio'r gêm yn erbyn Awstralia.
Roedd y dynion yn yfed cwrw trwy'r gêm, ac yn gollwng cwrw drosti, yn enwedig ar ôl i Gymru sgorio.
"Bu'n rhaid i mi godi yn ystod yr ail hanner a sychu fy sedd, achos roedd o'n llenwi gyda'u cwrw nhw," meddai.
Dywedodd bod ymateb y dynion yn ymosodol pan ofynnodd iddyn nhw stopio.
Mae goryfed yn datblygu'n "broblem fawr" yn ôl Andrew Davies a dalodd £95 i weld gêm Seland Newydd
Dywedodd: "Liciwn i weld bariau'r stadiwm yn cau yn ystod y gêm. Dim ond 80 munud yw e heb yfed."
Dywedodd llefarydd URC eu bod yn adolygu'r trefniadau gwerthu alcohol yn gyson ac yn gweithio'n agos efo Heddlu De Cymru i wella ymddygiad cefnogwyr.