Colli bysedd mewn cell heddlu

  • Cyhoeddwyd
Llaw Jamie ClarkFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Jamie Clark ran uchaf tri o'i fysedd ar ôl iddyn nhw gael eu dal mewn drws cell yng ngorsaf Llanelli.

Mae un o heddluoedd Cymru yn cael eu hannog i wella diogelwch drysau eu celloedd ar ôl i ddyn golli rhan uchaf tri o'i fysedd.

Fe gollodd Jamie Clark, 29, rannau o'i fysedd yn nrws y gell ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o ymosod ar heddwas.

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi dyfarnu nad oes digon o dystiolaeth i ddwyn achos o gam-ymddwyn yn erbyn unrhyw heddwas o Heddlu Dyfed-Powys.

Ond mae'r Comisiwn wedi galw ar yr heddlu i ystyried gosod rhwystrau bysedd ar ddrysau celloedd.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd lluniau camerau cylch-cyfyng yn dangos Mr Clark yn noeth yn rhedeg at ddrws y gell

Cafodd Mr Clark, o Borth Tywyn yn Sir Gâr, ei arestio i gychwyn yn dilyn ffrae gyda'i gariad ym Mehefin 2016, ond fe gafodd ei gyhuddo o geisio ymosod ar blismon ar ôl cyrraedd gorsaf heddlu Llanelli.

Fe enillodd Mr Clark yr hawl i gael copi o'r lluniau camerâu cylch-cyfyng o'r digwyddiad, ac fe gafodd ei drosglwyddo i'r Comisiwn Cwynion fel rhan o'i gŵyn yn erbyn yr heddweision.

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn: "Mae'r llu wedi derbyn argymhellion i atgoffa swyddogion yn y ddalfa fod digwyddiadau a phenderfyniadau o bwys yn cael eu cofnodi yn fanwl fel bod modd hyfforddi staff fel bod angen i leihau'r siawns o anafiadau wrth gau drysau celloedd.

"Mae heddlu Dyfed-Powys hefyd yn bwriadu asesu'r angen am osod rhwystrau bysedd yn eu celloedd."

Roedd Mr Clark yn honni i'w ddillad gael ei dynnu oddi arno, bod chwistrellydd pupur wedi cael ei ddefnyddio arno a bod hanner dwsin o swyddogion wedi ei daflu i mewn i gell.

Teimlo'r cnawd yn rhwygo

"Fe geisiais i fynd allan o'r gell", meddai, "ond yna fe deimlais i'r boen fwya' erchyll a theimlo'r cnawd yn cael ei rwygo i ffwrdd pan gafodd y drws ei gau."

"Ro'n i'n sgrechian mewn poen. Ro'n i'n gweiddi ar y swyddogion i agor y drws ond doedd neb yn fy helpu."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw'n derbyn penderfyniad y Comisiwn.