'Clust i wrando' i rai sy'n delio â galar dros y Nadolig

  • Cyhoeddwyd
Galar

Mae elusen galar yn atgoffa pobl fod cymorth ar gael i rai sy'n ei chael hi'n anodd wynebu'r Nadolig os ydyn nhw wedi colli rhywun annwyl.

Mae Cruse yn dweud bod unigolion weithiau'n ei chael hi'n anodd siarad â theulu neu ffrindiau am eu teimladau dros yr ŵyl.

"Weithiau, dydy pobl ddim eisiau gorlwytho'u teuluoedd â'u pryderon," meddai Janette Bourne, cyfarwyddwr Cruse yng Nghymru.

"Mae'r Nadolig yn gallu bod yn gyfnod anodd am sawl rheswm."

Y llynedd, derbyniodd yr elusen 500 o alwadau ffôn dros y cyfnod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae galar pawb yn wahanol, medd Llinos Nelson o Cruse

Collodd Llinos Nelson o Sanclêr ei thad pan oedd yn 26 oed, ac aeth i chwilio am cymorth gan Cruse am ei bod yn dal i deimlo'r galar rai blynyddoedd yn diweddarach: "Dywedodd y doctor taw iselder ysbryd oedd e.

"Roedd Mam o'r syniad bod eisiau i fi gadw'n brysur, felly roedd tair swydd gyda fi - ysgrifennyddes Pwyllgor y Pentref, athrawes yn dysgu Cymraeg i ddysgwyr ac mynd nol i goleg i hyfforddi i fod yn athrawes go iawn.

"Roedd y poen yn mynd a dod. Bydde rhywun yn dweud rhywbeth neu bydden yn clywed cân neu gweld ffilm roedd yn fy atgoffa o Dad. Roedd yn waeth pan oedd pethau ddim yn mynd yn dda."

Ffynhonnell y llun, Llinos Nelson
Disgrifiad o’r llun,

Portread o Brian John Nelson, tad Llinos Nelson

Ar ôl dod i gysylltiad â'r elusen dechreuodd Llinos wirfoddoli, ac mae hi bellach yn gweithio fel Swyddog Plant a Phobl Ifanc gyda Cruse yn y de-orllewin a Phowys.

Mae'n cytuno bod cyfnod y Nadolig yn gallu bod yn anodd: "Mae'n gallu bod yn amser hwylus dros ben ac mae pawb yn dod at ei gilydd a ma' hynny'n grêt.

"Ond mae sawl un yn gallu teimlo'n waeth oherwydd popeth maen nhw'n weld ar y teledu a'r hysbysebion a phawb da'i gilydd a phawb yn mwynhau, a hefyd pethe ar Facebook a phethe fel 'na.

Ton o alar

"Maen nhw wedi colli rhywun, falle'n ddiweddar, neu falle blynyddoedd maith yn ôl, ac mae'r boen yn dod yn ôl yn fwy dros y Nadolig.

"Mae e fel bod popeth yn stopio dros y Nadolig, ond os nad yw'r person yna, mae'r boen yn gallu mynd yn waeth."

Yn ôl Llinos Nelson mae pethau bach yn gallu atgoffa rhywun o'r person "a bydd e fel ton o alar yn dod drostoch chi".

"Mae hynna'n hollol, hollol iawn, does dim byd i fecso amdano.

"Mae jyst ishe gadael iddo ddod drwyddo, ac wedyn ffeindio beth sydd angen arnoch chi ar y pryd yna.

"Does dim un ffordd gywir o alaru."

Bydd Llinos yn cofio am ei thad yn ei ffordd hi ei hun dros gyfnod y Nadolig:"Eleni, byddaf yn mynd i'r bedd a dweud helo. Byddaf yn godi gwydraid ar ddydd Nadolig iddo ac ar ôl hynny - efallai darllen rhai o'i lythyron ysgrifennodd i fy mam-gu, pan oedden ni draw yn Zambia. Dydw i erioed wedi gallu neud hyn cyn nawr.

"Mae e gyda fi o hyd. Cyn iddo farw, dwedodd bod Duw yn aderyn a dwi'n ei gysylltu nawr gyda'r barcud coch ac mae e'n rhoi ryw deimlad o gysur i mi."

Rhai o gynghorion Cruse wrth wynebu'r Nadolig

  • Gwnewch beth sydd orau i chi a'ch teulu - boed hynny drwy barhau â'r dathliadau arferol neu wneud rhywbeth hollol wahanol, fel gwirfoddoli am y diwrnod;

  • Gallwch gynnwys eich atgofion am anwyliaid yn rhan o'r ŵyl, drwy ymweld â charreg fedd neu lecyn pwysig, ac edrych ar luniau ry' chi'n eu trysori;

  • Mae'r Nadolig yn gyfnod o loddesta, ond mae yfed alcohol fel dihangfa ond yn datrys problemau yn y byr dymor. Mae mynd am dro a chael awyr iach yn gallu gwneud lles;

  • Peidiwch â phoeni os bydd eich emosiynau'n mynd yn drech na chi, mae'n hollol naturiol a fydd neb yn eich beirniadu;

  • Byddwch yn garedig i'ch hun a gofynnwch am help pan fo'i angen.

Gallwch gysylltu â Cruse ar 0808 808 1677 neu fynd i'r wefan drwy glicio yma, dolen allanol. Mae cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael.