Dim dirwyon am boeri yng Nghaerdydd mewn pedair blynedd

  • Cyhoeddwyd
Heol Santes Fair, CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Does dim un person wedi cael dirwy am boeri ar y stryd yng Nghaerdydd, dros bedair blynedd ers i'r polisi ddod i rym.

Ers Hydref 2013, mae gan swyddogion Cyngor Caerdydd yr hawl i roi dirwy o £80 i unrhyw un sy'n cael eu dal yn poeri ar strydoedd y brifddinas.

Dywedodd y cynghorydd Michael Michael, sy'n gyfrifol am bortffolio amgylchedd y cyngor, bod y polisi yn un "anodd iawn i'w weithredu".

"Mae'n rhaid i'r swyddog weld y drosedd yn digwydd - os nad yw e yna dyw e methu gwneud dim am y peth," meddai wrth Cymru Fyw.

'Gwarthus'

Ychwanegodd: "Dydw i ddim yn meddwl ei fod yn wast o bolisi ond mae pobl yn disgwyl llawer gormod gan bolisi llawer o'r amser.

"Y rhwystredigaeth gyda'r pethau yma yw eu bod nhw'n anodd iawn i'w gweithredu. Mae'n fater o fod yn y lle iawn ar yr amser iawn.

"Rwy'n meddwl bod y bwriad yn un da ond mae cynhyrchu rhywbeth yn wahanol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Adrian Robson wedi ei "ryfeddu" gyda'r ffigwr

"Mae poeri yn fater o gwrteisi ac mae'n warthus - ddyle fe ddim digwydd. Ond mae'n rhaid cael swyddogion yno i'w dal nhw.

"Os ydw i'n troi at y swyddogion a dweud wrthyn nhw am ddosbarthu fwy o ddirwyon am boeri maen nhw'n mynd i ddweud 'sut?'"

Edrych ar CCTV?

Dywedodd y cynghorydd Adrian Robson, arweinydd yr wrthblaid ar y cyngor, ei fod wedi ei "ryfeddu" nad oes yr un ddirwy wedi ei roi mewn dros bedair blynedd.

"Mae hyn yn golygu nad oes ataliad i bobl rhag poeri," meddai.

"Os yw hi'n anodd dal pobl yn troseddu yna ddylai swyddogion ddefnyddio ffyrdd eraill o ymchwilio - er enghraifft, unwaith mae cwyn wedi ei gyflwyno fe allen nhw edrych ar system CCTV cyfagos."