James Williams: 'Diffyg adnoddau i'r digartref ym Mangor'
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Fangor sydd wedi byw ar y stryd am gyfnodau hir dros ogledd Cymru a Lloegr yn dweud mai Bangor oedd y lle gwaethaf i fod yn ddigartref oherwydd prinder adnoddau.
Roedd y cymorth i'r digartref mewn llefydd fel Plymouth yn llawer gwell nag ym Mangor yn ôl James Williams, 42, sydd wedi rhoi trefn ar ei fywyd erbyn hyn.
Mae Cyngor Gwynedd yn amcangyfrif bod 28 o bobl yn cysgu ar y stryd ym Mangor ond mae'r nifer yn agosach at 300 yn ôl rheolwr canolfan iechyd meddwl yn y ddinas.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod y gwasanaethau maen nhw a'u partneriaid yn eu darparu "i bobl sy'n cysgu allan yn debyg i'r hyn sy'n cael ei gynnig mewn trefi eraill sydd o'r un maint".
Cawl a blancedi
Mae James Williams yn dweud ei fod wedi treulio "tri chwarter" o'i fywyd yn ddigartref, ers ei fod yn 14 oed pan gysgodd mewn tent ym Mangor ar ôl ffrae deuluol.
Ar y Post Cyntaf, dywedodd ei fod wedi cysgu ar y stryd yn Nhrefor, Llangefni, Bae Colwyn a'r Rhyl cyn symud i Lundain, Dyfnaint a Chernyw.
Dywedodd bod y gefnogaeth sydd ar gynnig ym Mangor yn cymharu'n wael â'r sefyllfa mewn llefydd eraill.
"Lle gora i fod yn ddigartre o'dd Plymouth," dywedodd. "O'dd 'na fan yn dwad heibio dau waith y nos efo soup a petha i fyta a blancedi.
"Mae 'na toilets [ym Mangor] gei di folchi dannadd yn y sincs. Ma' 'na lefydd i ga'l bwyd. Ond yn Plymouth, [mae] llefydd i ga'l cawod, golchi dy ddillad am £1, sychu dy ddillad am £1."
Ychwanegodd: "R'unig amser ti'n ca'l help [ydy] pan ti'n landio yn ysbyty. Ma' 'na golwg di peidio byta arnat ti, golwg bo' ti ddim 'di ca'l bath ne cawod arnat ti, golwg jyst bron â marw arnat ti."
"Does na neb yn cerdded o gwmpas a gofyn i bobl sydd yn ddigartre'... ac yn deud 'phone this number, phone that number'."
Dywedodd mai cefnogaeth elusen ar gyrion Bangor sy'n helpu pobl roi'r gorau i gymryd cyffuriau a'i helpodd i ailafael mewn bywyd oddi ar y stryd.
Cyfeirio unigolion
Mae ystadegau Cyngor Gwynedd yn awgrymu bod nifer y bobl sy'n cysgu allan yn ardal Bangor yn weddol gyson ers 2014.
Mae'r wybodaeth ar sail sawl person gafodd eu gweld yn cysgu ar y stryd ar noson benodol o'r flwyddyn - trefn y mae'r holl awdurodau lleol yn ei defnyddio.
Tri pherson gafodd eu cofnodi yn ardal Bangor yn 2017, ond mae'r cyngor yn amcangyfrif bod y ffigwr yn 28.
Dywedodd llefarydd bod y cyngor yn cyfeirio unigolion at fenter gymunedol Tai Gogledd Cymru, sy'n darparu gwasanaeth yn hostel St Mary's yng nghanol y ddinas.
"Gall pobl gael bwyd a diodydd poeth, talebau bwyd, dillad cynnes, sachau cysgu a chymorth arall," dywedodd y llefarydd mewn datganiad.
"Mae staff yr hostel hefyd yn rhoi cyngor i bobl sy'n ddigartref am sut mae cael mynediad i wasanaethau a chael eu hasesu gan Wasanaeth Digartrefedd y Cyngor."
Diffinio pwy sy'n ddigartref
Yn ôl rheolwr Canolfan Lôn Abaty, sy'n cefnogi pobl â salwch meddwl, mae llawer o bobl ddigartref yn galw yno er mwyn cadw'n sych a chynnes ym misoedd y gaeaf, ond does ganddyn nhw ddim adnoddau priodol er mwyn mynd at wraidd eu problemau.
Mae Meinir Owen yn pwysleisio bod Uned Digartrefedd Cyngor Gwynedd yn cyflawni eu dyletswydd statudol wrth ymateb i sefyllfa pobl sydd newydd golli'u cartrefi.
Ond mae hi'n poeni am unigolion sy'n ddigartref ers blynyddoedd, ac yn codi cwestiynau ynglŷn â phwy sy'n cael eu cofnodi'n swyddogol fel person digartref.
Dywedodd wrth y Post Cyntaf: "'Da ni'n amcangyfrif bod 'na 300 ym Mangor yn unig. 'Di o'm yn golygu bod nhw i gyd ar y stryd.
"Mae'n dibynnu be 'di'r diffiniad. I ni, ma' rhywun sy'n cysgu ar Fynydd Bangor yn y tywydd yma mewn tent yn ddigartref."
Yn ôl Meinir Owen, mae Canolfan Lôn Abaty yn cydweithio gydag asiantaethau sector cyhoeddus eraill ac yn chwilio am adeilad addas yn y ddinas i sefydlu canolfan bwrpasol ar gyfer y digartref gydag adnoddau ymolchi, sychu dillad, caffi, cytiau cŵn a chanolfan addysg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2017