Negeseuon Nadolig 2017 gan ffigyrau amlwg Cymru a thu hwnt
- Cyhoeddwyd
Dyma'r cyfnod o'r flwyddyn lle mae ffigyrau amlwg ym mywyd cyhoeddus yn cyhoeddi negeseuon yr ŵyl sy'n edrych yn ôl dros y 12 mis diwethaf ac ymlaen i'r flwyddyn newydd.
Un peth sy'n eu clymu yw awydd i bobl fod yn fwy ystyriol mewn cyfnod o ddatblygiadau cythryblus ar draws y byd ac ym mywydau bob dydd pobl gyffredin.
'Rhaid dangos consyrn diffuant'
Yn ei neges Nadolig gyntaf ers cael ei orseddu'n Archesgob Cymru ym mis Medi mae John Davies yn pwysleisio'r angen i unigolion a'r rhai sy'n arwain ac yn llywodraethu i ddangos consyrn at eraill.
"P'un ai ydym yn gyffredin neu'n ddylanwadol, yn gyfoethog neu'n dlawd, geilw Crist ar bawb ohonom i ddangos consyrn cariadus at y rhai o'n hamgylch," meddai'r Archesgob, sy'n pregethu yng Nghadeirlan Aberhonddu ddydd Nadolig.
Mae dysgeidiaeth Iesu o Nasareth, meddai, "yn batrwm" ar gyfer pobl gyffredin a phobl rymus.
"Pwy bynnag ydym, mae ganddo rywbeth i'w ddweud am y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau a sut y gelwir arnom i ddangos consyrn cariadus, nid yn unig atom ein hunain ond at y miliynau o bobl anghenus, pobl adref a thramor, pobl yn ein cymunedau ein hunain a chymunedau pell i ffwrdd yng ngwledydd eraill y byd.
"Pobl y mae eu straeon bywyd o angen ac anobaith yn ymddangos yn ein newyddion bob dydd... pobl ddigartref, ffoaduriaid, dioddefwyr rhyfeloedd a thlodi, erledigaeth a rhagfarn, newyn a diffyg cyfleoedd.
"Ei neges i ni yw bod rhaid i ni geisio byw ein bywydau yn dangos consyrn diffuant, croesawus a chariadus at y rhai o'n hamgylch."
Parhau â'r ysbryd Nadolig yn barhaol
Apêl am i'r ysbryd o ewyllys da barhau ac nid diflannu'n fuan wedi'r Nadolig sydd gan y Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy'n cynrychioli Cristnogion mewn dros 400 o gapeli yng Nghymru.
"Mae gan y Nadolig rym rhyfeddol i oresgyn casineb a gwrthdaro, ond prin fod yr ysbryd o ewyllys da yn parhau'n hir. Rydym yn byw mewn oes o chwerwder gwleidyddol mawr, yn bennaf oherwydd Brexit," meddai.
"Mae'r chwerwder yma'n cael ei fwydo gan benawdau ymfflamychol yn y wasg a chasineb tuag at unigolion ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Gall ymosodiadau personol o'r fath nid yn unig frifo pobl, ond gwneud iddynt ofni am eu diogelwch.
"Mae'n debyg y cawn gadoediad byr dros yr ŵyl, ond ofnaf y bydd ysbryd y Nadolig yn diflannu'n gyflym wrth i'r broses Brexit fynd yn ei blaen.
"Byddai'n wych o beth petai gwleidyddion a'r cyhoedd yn gyffredinol yn gweithredu dros y tymor hir neges a dymuniad carolau a'r ysgrythur am 'heddwch ar y ddaear' ac 'ewyllys da i bawb'.
"Caiff y geiriau eu darllen a'u canu yn frwd, ond eu hanghofio yn rhy fuan yn aml, gwaetha'r modd."
Apêl am ymfudwyr
Yn ei neges ef mae'r Pab Francis wedi annog pobl i beidio anwybyddu trafferthion miliynau o ymfudwyr sydd wedi'i "gyrru o'u tir eu hunain".
Cymharodd y Pab yr ymfudwyr yma i Mair a Joseff, gan fod hwythau wedi teithio'n bell ond wedi darganfod nad oedd unrhyw le iddyn nhw ym Methlehem.
Dywedodd bod nifer o ymfudwyr yn cael eu gorfodi i ffoi oddi wrth arweinwyr "sy'n gweld dim problem mewn colli gwaed pobl ddiniwed".
"Mae ôl traed cymaint eraill yn cael eu cuddio yn ôl traed Joseff a Mair," meddai.
"Rydym yn gweld llwybr miliynau o bobl sydd ddim yn dewis mynd i ffwrdd, ond wedi cael eu gyrru o'u tir eu hunain, gan orfod gadael teuluoedd a ffrindiau ar ôl."
Llwyddiant Dafydd yn erbyn Goliath
Yn ei neges ef, mae Esgob Bangor, Andrew John, yn cyfeirio at y gystadleuaeth flynyddol ymhlith enwau mawr y Stryd Fawr i greu hysbyseb deledu fwyaf cofiadwy'r ŵyl.
Ond yn ei farn o "siop fach ddi-nod" yng nghanolbarth Cymru sy'n haeddu'r anrhydedd honno eleni sef siop Hafod Hardware yn Rhaeadr Gwy.
Mae hysbyseb Nadolig y busnes sy'n masnachu ers 1895 yn dangos un o weithwyr y siop yn dosbarthu anrhegion tan y funud olaf cyn y diwrnod mawr.
Dywedodd yr Esgob: "Ar ddiwedd y dydd mae'n syrthio i drwmgwsg, gan ddeffro i ganfod fod rhywun eisoes wedi lapio'i anrhegion yntau i gyd.
"Mae Nadolig y gŵr yma'n dechrau o ddifrif wrth i'w fabi gropian i'r golwg, gan rannu llawenydd a chyffro'r eiliad honno.
"Mae'n ymddangos fod gwobrwyo siop fach ddi-nod yn Rhaeadr Gwy yn enghraifft arall o lwyddiant Dafydd yn erbyn Goliath y busnesau mawrion."
Mae fideo Nadolig yr Esgob ei hun yn rhoi sylw i waith banc bwyd Cadeirlan Bangor, a chynnydd diweddar yn y galw am gymorth.