Firws yn pergylu poblogaeth y wiwer goch

  • Cyhoeddwyd
Gwiwer gochFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder y bydd y firws yn lledu

Mae Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru yn apelio am gymorth y cyhoedd er mwyn ceisio atal firws angheuol rhag difa poblogaeth gyfan yr anifail ar Ynys Môn.

Y wiwer lwyd sy'n lledu'r firws ond mae'n cael mwy o effaith ar y wiwer goch.

Pryder Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymruyw y gallai ladd y rhan fwyaf o wiwerod coch ar yn ynys.

Mae swyddogion a gwirfoddolwyr eisoes wedi canfod tri o wiwerod oedd wedi marw o'r clefyd yn ardal Bangor yng Ngwynedd.

Mae'r ymddiriedolaeth yn apelio i'r cyhoedd sy'n dod o hyd i wiwer sâl neu farw i gysylltu â nhw., dolen allanol

Hefyd fe allai'r cyhoedd helpu drwy lanhau offer sy'n cael ei ddefnyddio i fwydo anifeiliaid gwyllt, neu wasgaru bwyd ar y ddaear yn hytrach na defnyddio offer bwydo.

Dywedodd Holly Peek, swyddog gyda'r ymddiriedolaeth: "Fe allwn weld colli 90% o boblogaeth wiwerod o fewn misoedd.

"Rydym yn pryderu am y sefyllfa yng Ngwynedd ond hefyd yn Sir Fôn, oherwydd mae yna boblogaeth sylweddol o'r anifail yn byw wrth y pontydd.

"Pe bai wiwer sy wedi ei heintio yn croesi i Fôn yna byddai'n ofnadwy.

"Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae poblogaeth y wiwer goch ar yr ynys wedi codi o 40 i 800, ac fe fyddai yna risg i'r holl boblogaeth. "