Llenyddiaeth Gymraeg mewn dwylo diogel

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na ddyfodol iach i lenyddiaeth Gymraeg os y bydd awduron ifanc buddugol Stori Fer Aled Hughes ar Radio Cymru yn dal ati.

Yr awdures Bethan Gwanas a Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, gafodd y dasg o ddewis y pump stori ddaeth i'r brig.

Derbyniodd Rhaglen Aled Hughes ddwsinau o straeon gan ddisgyblion blynyddoedd 5 a 6 ysgolion cynradd Cymru.

Fe gafodd y straeon buddugol eu darlledu ar y rhaglen foreol yn ystod yr wythnos cyn y 'Dolig.

Dyma i chi gyfle arall i gael blas ar waith yr awduron talentog. Martin Thomas a Sian Beca yw'r storïwyr:

Disgrifiad,

'Sebona Fi' gan Reuben Pridmore, Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Disgrifiad,

'Bicini Mamgu' gan Nia Lewis, Ysgol Llangwyryfon, Ceredigion

Disgrifiad,

'Santa Bond Opyreshyn Nadolig' gan Teifi Williams, Ysgol Bro Cinmeirch, Sir Ddinbych

Disgrifiad,

'Diwrnod i'r Defaid' gan Ela Fôn, Ysgol Crud y Werin, Aberdaron

Disgrifiad,

'Mabon' gan Myfi Morris, Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd

Rhaglen Aled Hughes, BBC Radio Cymru, Llun-Gwener, 08:30-10:00