£140,000 i ddioddefwyr camdriniaeth gan bennaeth ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae wyth dyn sy'n honni iddyn nhw gael eu cam-drin gan brifathro wedi derbyn £140,000 mewn iawndal.
Y gred yw bod Jon Styler wedi cam-drin bechgyn mewn ysgolion yng Nghasnewydd a Sir Gaerwrangon yn y 1970au a 1980au.
Lladdodd ei hun yng Nghasnewydd yn 2007 ar ôl gwadu'r honiadau yn ei erbyn.
Mae Cyngor Casnewydd wedi cadarnhau eu bod wedi dod i gytundeb mewn rhai achosion a bod dau achos arall ar y gweill.
'Bwystfil'
Mae cyfreithwyr yn credu y gallai Mr Styler fod yn un o droseddwyr rhyw gwaethaf Cymru, gyda dros 100 o ddioddefwyr.
Fe wnaeth Cyngor Casnewydd etifeddu cyfrifoldeb am y mater gan yr hen Gyngor Gwent, a oedd yn cyflogi Mr Styler pan oedd yn byw yng Nghymru.
Dywedodd un dyn, oedd am aros yn ddienw, ei fod wedi diodde' ymosodiad rhyw treisgar gan Mr Styler pan yn blentyn.
"Roedd y dyn yna yn fwystfil... fe wnaeth gymryd mantais o fechgyn ifanc, ac roedd yn medru symud staff o'r ffordd er mwyn ei foddhad rhywiol ei hun," meddai.
"Fe wnes i ddiodde' ymosodiadau rhyw ofnadwy yn f'erbyn fel plentyn - roedd un ymosodiad mewn carafán ac roedd e'n echrydus."
Ychwanegodd y dyn ei fod wedi rhoi'r arian - degau o filoedd o bunnoedd - i berthnasau, ac nad ydyn nhw'n gwybod o ble daeth yr arian.
Dywedodd nifer o ddynion eu bod wedi cael eu cam-drin gan Mr Styler pan oedd yn bennaeth ar Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Malpas yn y 1970au.
Cafodd ei ddisgrifio fel ffigwr carismatig oedd yn arbenigo mewn dysgu cerdd a drama, ac a oedd yn aml yn addysgu plant ar eu pennau eu hunain yn ei swyddfa.
Laddodd Mr Styler ei hun yn 2007 pan gafodd honiadau o gam-drin eu hadrodd i'r heddlu yn gynharach y flwyddyn honno.
Gwadodd yr honiadau mewn nodyn a adawodd cyn crogi ei hun.
Dywedodd cyfreithwyr ar ran yr wyth dyn bod Cyngor Casnewydd wedi methu dod o hyd i record personél Mr Styler, ac yn honni hefyd bod cofnodion addysgol eraill oedd yn bwysig i'r achos wedi cael eu "colli".
Mae'r awdurdod nawr wedi cytuno i dalu cyfanswm o £140,000 i'r wyth, ond dyw hynny ddim yn derbyn cyfrifoldeb am y troseddau honedig.
Setliad 'mewn rhai achosion'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd bod Mr Styler "wedi cael ei benodi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd" cyn i'w gyflogaeth gael "ei symud i Gyngor Sir Gwent" yn dilyn "ad-drefnu". Dywedodd mai Cyngor Dinas Casnewydd sy'n delio â'r ceisiadau yswiriant gan nad ydy'r cyrff yma'n bodoli bellach.
"Rydym yn gallu cadarnhau ein bod wedi cytuno ar setliadau mewn rhai achosion, ond y byddai gwneud sylw pellach yn amhriodol am fod dau achos arall ar y gweill," meddai.
"Er hynny, hoffwn bwysleisio bod mai rhai hanesyddol yw'r honiadau sy'n gysylltiedig â Mr Styler ac nad oes cysylltiadau rhwng yr ysgolion ble roedd e'n dysgu ddegawdau yn ôl a'r ysgolion hynny heddiw.
"Adeg yr ad-drefnu, dim ond cofnodion personél aelodau o staff oedd yn cael eu trosglwyddo i gynghorau eraill, fel Casnewydd, gafodd eu cadw. Rydym yn deall bod y cofnodion eraill i gyd wedi cael eu dinistrio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd8 Medi 2015
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2015