Cynllun Lagŵn Abertawe yn 'ddibynnol ar y ffigyrau'

  • Cyhoeddwyd
Morlyn AbertaweFfynhonnell y llun, TLP

Mae ysgrifennydd Cymru wedi rhybuddio bod cynllun morlyn llanw Bae Abertawe yn dibynnu ar ei werth am arian.

Dywedodd Alun Cairns wrth ASau bod cymeradwyo'r prosiect £1.3bn yn "ddibynnol ar y ffigyrau".

Roedd Mr Cairns yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn dilyn adroddiadau bod brwdfrydedd Llywodraeth y DU am y cynllun yn pylu.

"Mae'n rhaid iddo ddangos gwerth am arian, ac ni ddylai unrhyw un ohonom ni ei eisiau os nad yw'n dangos hynny," meddai.

"Yn y pendraw, trethdalwyr sy'n gorfod talu amdano.

"Dy'n ni'n gwneud popeth yn ein gallu i geisio sicrhau ei fod yn cydymffurfio ond mae'n rhaid iddo fod yn ddibynnol ar y ffigyrau yn y pendraw, neu eich etholwyr chi, fy etholwyr i a buddsoddiad mewn busnes fydd yn talu'r pris."

Ffynhonnell y llun, TLP

Fe wnaeth Mr Cairns dderbyn ei fod wedi bod yn "gefnogwr brwd" o'r lagŵn, gan ddweud bod y ffaith fod y llywodraeth wedi rhoi caniatâd cynllunio iddo yn dangos eu bod eisiau gwireddu'r cynllun.

Fis diwethaf fe wnaeth dros 100 o fusnesau lofnodi llythyr yn galw ar y prif weinidog i roi £1.3bn i'r cynllun morlyn llanw cyn gynted â phosib.

Yn gynharach eleni fe wnaeth adroddiad gan gyn-weinidog ynni'r DU, Charles Hendry, awgrymu cymeradwyo'r prosiect.

Ond dyw Llywodraeth y DU, wnaeth gomisiynu'r adroddiad hwnnw, ddim wedi ymateb i'r canfyddiadau.