'Holl bwrpas y Nadolig yw achub enaid', medd y Tad Dewi

  • Cyhoeddwyd
Meudwyfa DuleekFfynhonnell y llun, Meudwyfa Duleek
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Tad Dewi yn feudwy yn Duleek yn Sir Meath

"Mae dynol ryw mewn cawl o fes a holl bwrpas y Nadolig yw achub enaid dyn." Dyna neges y Tad Dewi sy'n byw yn Duleek, yn Sir Meath yn Iwerddon.

Mae'r Tad Dewi yn feudwy - sef person sy'n byw mewn unigedd o'r neilltu er mwyn ei grefydd.

"Pan yn fachgen ifanc roedd fy mryd ar ddilyn galwedigaeth Sant Ffransis ac yn llythrennol roeddwn am dderbyn gwahoddiad Crist i adael popeth," eglura wrth Cymru Fyw.

Mi fyddai'r Tad Dewi wedi hoffi bod yn feudwy yng Nghymru "ond er bod yna gynlluniau ar un adeg i sefydlu lle addas yn ardal Botwnnog ddigwyddodd hynny ddim".

Ffynhonnell y llun, Y Tad Dewi
Disgrifiad o’r llun,

Y Tad Dewi mewn cyfnod cynharach yn croesawu ei frawd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C

Cafodd y Tad Dewi ei ordeinio mewn mynachlog yn Yr Eidal ac wedi i honno gau fe symudodd i Iwerddon - ond fel meudwy yn hytrach na mynach.

"Mae angen distawrwydd llwyr i fynd mewn i'r byd cyfriniol," meddai.

"Allwch chi ddim gwneud hynny os oes pobl o gwmpas ac mae cael pobl yn galw yn gallu creu tensiwn.

"Yn wahanol i fod mewn abaty - os ydych yn feudwy cofiwch nad oes gennych amddiffyniad o unrhyw fath. Dim ond chi sydd yna a ry'ch chi'n gorfod ateb pawb eich hun.

"Byddai'n sicrhau bod neb yn gallu dod atat y rhan fwyaf o'r dydd ac fe fyddaf yn troi at y ffôn tua hanner nos i weld os oes negeseuon.

"Mae 'na esgob yn dod i'm gweld unwaith y mis ac fe yw fy abad."

Ffynhonnell y llun, Y Tad Dewi
Disgrifiad o’r llun,

Y Tad Dewi mewn cyfnod cynharach

Wrth sôn am y Nadolig mae'r Tad Dewi yn dweud fod y diwrnod yn un hynod o brysur.

Dywedodd: "Mi fydd 'na osber (gwasanaeth hwyrol) cyn hanner nos, yna offeren y wawr - Cymraeg a Lladin fydd honno heblaw bod rhywun yn dod i gadw cwmni i mi.

"Ac yna am 11 offeren arall. Gan fy mod yn gaplan ar dŷ hen bobl mi fyddan nhw yn ymuno â fi yn yr offeren honno.

"Does fawr o amser gen i i wneud rhyw lawer ar y diwrnod. Mi fyddai'n mynd at ffrindiau i ginio - mae hynny'n arbed amser i mi ac yna 'nôl yn fuan wedyn i weddïo."

'Llai eithafol'

Wrth gael ei holi a fyddai'n newid rhywbeth am ei oes o fyw ar ben ei hun dywedodd na fyddai'n newid rhyw lawer, ond efallai y dylai fod wedi gwrando ar ei dad ac wedi mynd i Abaty Ampleforth.

"Mi fues i a'n nhad yn edrych ar y lle, yr union adeg yr oedd y Cardinal Basil Hume yno.

"Petawn i wedi mynd yno, mae'n debyg y buaswn wedi arwain bywyd tipyn llai eithafol a ddim wedi mynd i Ffrainc at y Carthwsiaid, oedd yn gorchymyn byw mewn tawelwch llethol."