Galw'r heddlu i ysgol gynradd wedi ffrae cyngerdd Nadolig

  • Cyhoeddwyd
ysgol gynradd windsor cliveFfynhonnell y llun, Wales News Service

Mae pennaeth ysgol gynradd yng Nghaerdydd wedi cael ei chyhuddo o ddwrdio plant nes eu bod nhw mewn dagrau yn dilyn cyngerdd ysgol.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gynradd Windsor Clive yn Nhrelai ddydd Mawrth i dawelu pethau yn dilyn cwyn gan grŵp o rieni wedi'r cyngerdd Nadolig ddydd Llun.

Yn ddiweddarach cafodd ail gyngerdd Nadolig oedd i fod i gael ei gynnal ddydd Mawrth ei ganslo.

Dywedodd y rhieni fod y pennaeth, Vicky Meadows wedi beirniadu perfformiad y disgyblion yn y sioe, a'u cyhuddo o gamymddwyn - honiadau y mae'r ysgol wedi eu gwadu.

'Ypsetio'n ofnadwy'

Dywedodd un tad, Chris Berwick, 39, fod rhieni wedi ceisio cysylltu â'r ysgol i godi eu pryderon ond na chawson nhw ymateb.

"Ar ôl i'r rhieni adael fe gawson nhw i gyd eu llusgo nôl ac fe ddywedodd y pennaeth wrthyn nhw pa mor warthus oedden nhw," meddai.

"Roedd y plant wedi ypsetio'n ofnadwy ac yn crio."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Yn dilyn y cyngerdd Nadolig ddydd Llun, mae rhai rhieni wedi honni fod disgyblion wedi cael eu ceryddu mewn modd amhriodol. Mae'r ysgol yn gwadu hyn.

"Os oes gan unrhyw riant gwyn, bydden ni'n disgwyl iddyn nhw ddefnyddio'r sianelau priodol er mwyn codi'u pryderon drwy broses gwynion yr ysgol."