Cynnig newid rheolau dadleuol ar lety gwyliau

Abersoch yng NgwyneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae poblogaeth Abersoch yng Ngwynedd yn codi'n aruthrol yn yr haf

  • Cyhoeddwyd

Mae newidiadau wedi cael eu hawgrymu gan Lywodraeth Cymru i'w rheolau treth dadleuol ar gyfer perchnogion llety gwyliau hunanddarpar.

Ers 2023, mae'n rhaid i letyau gwyliau Cymru fod ar gael am 252 diwrnod a'u gosod am 182 diwrnod bob blwyddyn er mwyn talu trethi annomestig yn lle treth gyngor uwch - yn ogystal â phremiwm ail gartrefi mewn nifer o achosion.

Cafodd y rheolau eu cyflwyno, medd y llywodraeth, i "sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg at eu cymuned leol".

Mae'r llywodraeth nawr yn cynnig caniatáu i berchnogion llety gwyliau ddefnyddio 182 diwrnod ar gyfartaledd dros sawl blwyddyn.

Mae hefyd am ganiatáu hyd at 14 diwrnod o wyliau am ddim a roddir i elusen i gyfrif tuag at y targed o 182 diwrnod.

Nid yw 40% o lety gwyliau yng Nghymru wedi bodloni'r meini prawf ers i'r rheol 182 diwrnod gael ei chyflwyno yn 2023.

Mae 'na rybudd y gallai miloedd o swyddi yn y sector twristiaeth gael eu colli yng Nghymru os nad oes newidiadau i'r rheolau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford eu bod wedi "gwrando ar y rhai sy'n gweithio yn y sector ac yn cynnig newidiadau bach i'r rheolau presennol i'w cefnogi."

'Argyfwng'

Mae Cymdeithas Broffesiynol Hunan-arlwywyr (PASC) wedi beirniadu'r cyhoeddiad, gan ei alw'n "ystum symbolaidd sy'n methu â mynd i'r afael â'r argyfwng go iawn sy'n wynebu busnesau twristiaeth Cymru".

Ar ran y Ceidwadwyr, dywedodd Gareth Davies AS fod y rheol 182 diwrnod yn "niweidiol".

"Ni fydd twtio o gwmpas yr ymylon yn helpu busnesau sy'n ei chael hi'n anodd. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn lleihau'r trothwy 182 diwrnod i 105 diwrnod," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod yn croesawu "yr hyblygrwydd cynyddol i berchnogion llety gwyliau, fodd bynnag, mae'r trothwy meddiannaeth yn parhau heb ei newid ac yn parhau i fod yn destun pryder i lawer o fusnesau bach Cymru, yn enwedig yng nghefn gwlad.

"Rhaid i'r llywodraeth hefyd gynnig mwy o eglurder ar y meini prawf sy'n caniatáu eithriadau mewn rhai achosion, er enghraifft anheddau ar dir fferm na fyddai'n addas ar gyfer y farchnad agored.

"Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i bwysigrwydd codi'r trothwy meddiannaeth, ond rhaid i ni fod yn ymwybodol bob amser o sicrhau ei fod wedi'i osod ar y lefel fwyaf addas."

Ond dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod y cynnig newydd yn "brawf pellach" bod y llywodraeth Lafur yn "ddiegni ac yn cysgu".

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford am "sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg at eu cymuned leol"

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad tan 20 Tachwedd ar y ddau newid allweddol i'r ffordd y mae'r rheolau'n cael eu gweithredu.

Byddai'n golygu y byddai'r rhai sydd wedi colli'r cyfle i osod eu llety gwyliau am 182 diwrnod yn y flwyddyn ddiweddaraf yn aros ar ardrethi annomestig os oeddent wedi ei gyflawni ar gyfartaledd dros ddwy neu dair blynedd flaenorol.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn hefyd a ddylai cynghorau ystyried rhoi mwy o amser i fusnesau addasu, megis cyfnod gras o 12 mis cyn y gallent orfod talu cyfraddau treth gyngor uwch pan fyddant yn symud o ddosbarthiad annomestig i ddosbarthiad domestig.

Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, byddai angen deddfwriaeth i gael ei basio yn y Senedd i weithredu'r cynigion hyn, a byddai'r newidiadau yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig, ac ry'n ni am sicrhau ein bod yn gwireddu'r potensial hwnnw mewn ffordd sy'n sicrhau cydbwysedd rhwng ein cymunedau, ein busnesau, ein tirweddau a'n hymwelwyr.

"Ry'n ni cydweithio'n agos â busnesau twristiaeth a lletygarwch i helpu i fynd i'r afael â'r heriau maen nhw'n eu hwynebu, gan sicrhau bod pawb yn gwneud cyfraniad teg tuag at economïau lleol ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

"Er bod y rhan fwyaf o berchnogion llety gwyliau eisoes yn bodloni'r rheolau newydd a gyflwynwyd o 2023, gyda 60% o eiddo yn bodloni'r meini prawf gosod, rydym wedi gwrando ar y rhai sy'n gweithio yn y sector ac yn cynnig newidiadau bach i'r rheolau presennol i'w cefnogi."

Ond dywedodd Jeff Smith, cadeirydd grŵp cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith, "yn lle canolbwyntio ar yr argyfwng tai yn ein cymunedau mae'r llywodraeth yn ystyried mân newidiadau i deddfwriaeth ddiweddar, er bod mwyafrif y busnesau mae ddeddfwriaeth yn berthnasol iddo yn cydymffurfio ag e".

"Ar ôl cyflwyno papur gwyn di-ddim ar Dai Digonol, heb unrhyw fwriad i ddeddfu, llynedd mae wedi ymateb i adroddiad a fu ar waith gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg am ddwy flynedd trwy ddweud bod angen trafod pellach.

"Mae amser y Senedd yma yn prysur ddod i ben ond mae cyfle o hyd i baratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno deddf eiddo gyflawn yn y Senedd nesaf."

'Trothwy 182 yw'r broblem'

Dywedodd cyfarwyddwr Cymdeithas Broffesiynol Hunan-arlwywyr (PASC UK Cymru) Nicky Williamson, "er y bydd aelodau'n croesawu'r gallu i gyfrif wythnosau elusen eto, nid yw hyn yn agos at ddigon".

Ychwanegodd: "Am dair blynedd rydym wedi cyflwyno data yn barhaus i Lywodraeth Cymru sy'n dangos y difrod a achoswyd gan y polisi hwn - ond maent yn parhau i anwybyddu'r realiti.

"Mae twristiaeth yng Nghymru wedi colli dros chwarter o'i hymwelwyr dros nos ers i'r polisi hwn ddechrau, ond nid yw'r trothwy ar gyfer busnesau wedi newid, gan adael perchnogion yn cael eu cosbi am rywbeth sydd y tu hwnt i'w rheolaeth yn llwyr.

"Mae perchnogion busnesau yn gweithio'n galetach nag erioed dim ond i sefyll yn llonydd, gydag 85% yn cael eu gorfodi i ostwng prisiau i geisio cyrraedd y trothwy.

"Y trothwy 182 yw'r broblem a rhaid lleihau hyn yn sylweddol."

Esboniodd mai canlyniad peidio â chyrraedd y trothwy 182 diwrnod yw bod llety yn symud o drethi busnes i dreth y cyngor a phremiwm ail gartref yn cael ei ychwanegu.

Yn ogystal, dywedodd bod rhai pobl yn derbyn biliau treth y cyngor a phremiwm ail gartref wedi'u hôl-ddyddio am dair blynedd hyd at 2022/23 – a all fod hyd at £30,000 – gyda thaliad ar unwaith yn ofynnol neu'r bygythiad o dderbyn gwŷs gan lys am arian nad yw hyd yn oed yn ddyledus yn aml.

Daeth beirniadaeth hefyd gan gadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, Rowland Rees-Evans, a ddywedodd fod llawer yn y sector yn "rhoi gostyngiadau sylweddol dim ond i gyrraedd y trothwy o 182, nad yw'n gynaliadwy yn y tymor hir yn amlwg".

"Os nad ydych chi'n cyflawni 182 diwrnod ym mlwyddyn un a dau, yna mae'n annhebygol iawn y bydd yn cael ei gyflawni yn y drydedd flwyddyn," meddai.

"Bydd hyn yn rhoi pwysau enfawr ar fusnesau bach ledled Cymru."

Yn flaenorol, roedd eiddo a oedd ar gael i'w rhentu am o leiaf 140 diwrnod - ac a oedd mewn gwirionedd wedi'u rhentu am 70 - yn gymwys ar gyfer trethi busnes is yn hytrach na threth y cyngor.

Mae'r system honno'n dal i weithredu yn Lloegr.