Marwolaethau Trelái: Gallai swyddog wynebu gwrandawiad camymddwyn

Kyrees Sullivan a Harvey EvansFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, mewn gwrthdrawiad yn ardal Trelái ym mis Mai 2023

  • Cyhoeddwyd

Dylai swyddog heddlu oedd yn gyrru fan y tu ôl i ddau fachgen a fu farw mewn gwrthdrawiad beic trydan yng Nghaerdydd wynebu gwrandawiad camymddwyn difrifol, yn ôl y Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn y digwyddiad yn ardal Trelái ar 22 Mai 2023.

Fe wnaeth y digwyddiad sbarduno anhrefn dreisgar yn yr ardal, lle cafodd swyddogion heddlu eu hanafu, ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau - gan gynnwys tân gwyllt - eu taflu at y gwasanaethau brys.

Daeth yr IOPC i'r casgliad y dylai'r swyddog wynebu gwrandawiad oherwydd "cywirdeb yr wybodaeth gafodd ei rannu gyda chydweithwyr" ac "anghysondebau" posib yn ymwneud â'i dystiolaeth.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi "cydweithredu'n llawn" gyda'r ymchwiliad, a'u bod yn gobeithio gweld y gwrandawiad yn "cynnig atebion" i'r nifer o gwestiynau sydd wedi codi am yr achos.

'Anghysondebau' posib yn y dystiolaeth

Fe wnaeth lluniau CCTV o'r digwyddiad ddangos fan heddlu yn dilyn y ddau fachgen, ond roedd y cerbyd tua hanner milltir i ffwrdd o'r beic trydan pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, medd yr IOPC.

Fe wnaeth yr ymchwiliad ganfod nad oedd cyswllt rhwng cerbyd yr heddlu a beic trydan y bechgyn cyn y gwrthdrawiad.

Er hyn, mae'r ymchwiliad yn nodi fod gan y swyddog a oedd yn gyrru'r fan achos camymddwyn difrifol i'w ateb ynghylch ei yrru, a'r iaith a gafodd ei ddefnyddio yn y man ble digwyddodd y gwrthdrawiad.

Nododd yr ymchwiliad y gallai panel disgyblu ddod i'r casgliad "fod ei yrru ar y pryd y tu hwnt i'w lefel hyfforddiant ac awdurdod", ac yn groes i arfer proffesiynol awdurdodedig Coleg yr Heddlu a pholisi'r heddlu ei hun.

Yn ogystal, mae'n awgrymu "y gallai fod rhai anghysondebau a gwrthdaro tystiolaethol fod yn y wybodaeth a roddwyd gan y swyddog, a fyddai'n mynd yn groes i safonau gonestrwydd ac uniondeb yr heddlu".

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron eisoes wedi penderfynu peidio cyhuddo'r swyddog o unrhyw drosedd "gan nad oedd digon o dystiolaeth".

Dywedodd cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: "Mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda theuluoedd Kyrees ac Harvey a phawb sydd wedi eu heffeithio o golli'r bywydau ifanc.

"Rydym yn gwybod bod marwolaethau'r bechgyn wedi cael effaith ddofn ar y gymuned leol.

"Fe wnaeth ein hymchwiliad annibynnol edrych ar y cysylltiad a gafodd Heddlu De Cymru gyda'r bechgyn cyn y gwrthdrawiad, yn ogystal â chyfrifon a ddarparwyd gan swyddogion yn y lleoliad ac yn ddiweddarach i'n hymchwiliad."

Ychwanegodd mai cyfrifoldeb panel disgyblu heddlu fydd penderfynu a yw'r honiadau yn wir.

Mae eu hail ymchwiliad i gwynion teuluoedd yn erbyn Heddlu De Cymru yn parhau, ac yn "agos at ddod i ben".

'Atebion i'r nifer o gwestiynau'

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Simon Belcher: "Yn dilyn marwolaethau trasig Kyrees Sullivan a Harvey Evans yn 2023, fe wnaeth Heddlu De Cymru wneud cais gorfodol i'r IOPC i sicrhau bod y mater yn cael ei graffu'n annibynnol.

"Mae'r llu wedi cydweithio'n llwyr gyda'r ymchwiliad ac wedi cyflwyno gwybodaeth a deunydd, gan gynnwys lluniau CCTV a fideo corff."

Ychwanegodd: "Rydym yn gobeithio bydd canlyniad yr ymchwiliad annibynnol ac achosion cwest yn y dyfodol yn rhoi atebion i'r nifer o gwestiynau sydd wedi eu codi am yr achos hwn.

"Mae ein meddyliau, fel bob amser, gyda theuluoedd a ffrindiau Harvey a Kyrees a phawb yr effeithiwyd arnynt gan eu marwolaethau."

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Emma Wools, y bydd ei swyddfa yn "ystyried y manylion yn adroddiad yr IOPC yn ofalus".

"Rydyn ni'n gwybod ac yn deall cryfder y teimlad o fewn y gymuned, ac mae'r comisiynydd wedi ymrwymo i sicrhau bod gwersi yn cael eu dysgu o'r adroddiad yma, a bydd yn gwneud datganiad llawn maes o law."

Pynciau cysylltiedig