Swyddog tân yn galw am gymorth i leihau tanau celcwyr

  • Cyhoeddwyd
StafellFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen adnoddau ychwanegol i helpu miloedd o bobl sy'n gor-gasglu nwyddau - celcwyr - rhag y potensial o gael eu lladd mewn tân yn eu tai, medd un swyddog tân blaenllaw.

Mae gwasanaethau tân Cymru yn ymwybodol o 670 o bobl sydd yn pentyrru pethau ond maen nhw'n amcangyfrif fod gan hyd at 5% o'r boblogaeth y cyflwr.

Yn ôl ffigyrau, mae tua 25% i 30% o farwolaethau tân yn ymwneud â'r cyflwr sef pan mae person yn ei chael hi'n anodd cael gwared ag eitemau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi buddsoddi £3m dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn mynd i'r afael â hyn.

Cyflwr 'cudd'

"Dw i'n amau bod y broblem yn fwy difrifol na mae'r ffigyrau rydyn ni wedi darganfod yn dangos," meddai Diana Harris, o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

317 y mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yn gwybod amdanyn nhw, 275 yn y canolbarth a'r gorllewin a 78 yn y de.

Ond pryder swyddogion tân yw y gallai yna fod cymaint â rhwng 35,000 a 70,000 o achosion mewn gwirionedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mrs Harris oedd un o awduron llyfr hunan gymorth gan y gwasanaeth iechyd. Mae'n dweud bod y broblem yn tueddu i fod yn un "gudd".

"Mae'r person sy'n dioddef yn teimlo gormod o gywilydd i adael i bobl gamu i mewn i'r tŷ. Dw i'n amau fod y broblem yn llawer gwaeth na'r ffigyrau rydyn ni wedi darganfod," meddai.

Mwy o risg

Mae brigadau tân, byrddau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu yn cydweithio er mwyn ceisio cymryd camau i atal tanau mewn tai pobl sy'n gelcwyr.

Ymhlith y gwaith maen nhw'n gwneud yw gosod a gwirio larwm tân, rhannu cyngor ynglŷn â sut i atal tân a thrafod sut i ddianc os yw tân yn cychwyn.

Mae tanau yn debygol o ledaenu llawer yn gyflymach mewn tai lle mae person yn gelciwr, medd Mrs Harris.

"Os yw'r allanfa wedi blocio fe fydd hi'n cymryd hirach i fynd allan o'r adeilad. Mae hefyd yn anoddach i weithwyr tân achub pobl os oes yna sawl peth yn eu rhwystro.

"Fe allai yna fod defnyddiau ffrwydrol neu beryglus yn y cartref sydd yn ychwanegu at y perygl i weithwyr tân."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Dyw dod i glirio'r llanast ddim yn helpu'r unigolyn medd Diana Harris am fod y broblem yn fwy cymhleth na hynny

Dyw rhai sy'n pentyrru eitemau ddim yn cael help ar gyfer yr "hyn sydd wrth wraidd eu problemau" felly maen nhw'n defnyddio alcohol neu gyffuriau er mwyn ceisio cysuro eu hunain meddai ac mae hynny yn cynyddu'r risg o dân.

"Mae'n anodd i wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol oherwydd oni bai eu bod nhw'n ymweld â'r cartrefi fydden nhw ddim yn gwybod gwir ddifrifoldeb eu problemau.

"Mae angen i fwy o adnoddau fod ar gael i helpu. Weithiau mae pobl yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n barod i dderbyn help ond mae hynny yn anodd iawn oherwydd does 'na ddim help arbenigol ar gael.

"Fe all rhywun ddod i mewn a chlirio'r eiddo ond mae hyn yn peri gofid mawr i'r person sydd yn barod yn ofnus iawn ac yn amlwg yn dioddef."

Angen cymorth emosiynol

Byddai cynnig help emosiynol, cymorth mewn grwpiau ac un i un y ffordd fwyaf effeithiol o helpu celcwyr a chynnig cymorth arbenigol i glirio eu tai "dros gyfnod hir o amser" medd Mrs Harris.

"Yn aml iawn byddai yn well gan gelcwyr dderbyn help yn y ffyrdd hyn yn hytrach na chael eu cyfeirio at eu meddyg teulu neu wasanaethau cymdeithasol," ychwanegodd.

Yn ôl Charity Hoarding UK mae'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar le mae rhywun yn byw ym Mhrydain.

"Mae angen i bobl ddeall nad yw clirio'r annibendod yn helpu yn yr hir dymor," meddai sylfaenydd yr elusen, Megan Karnes.

"Cymorth emosiynol a bugeiliol yw'r hyn sydd yn allweddol i'r bobl fregus hyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi buddsoddi £3m mewn therapïau seicolegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a bod gan Gymru eisoes ymarferwyr meddygol sy'n darparu ymyrraeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, megis Therapi Ymddygiadol Dirnadol (Cognitive Behavioural Therapy) sy'n gallu bod yn benodol ar gyfer cyflyrau unigol.