Finsbury Park: Dyn o Gaerdydd yn pledio'n ddieuog

  • Cyhoeddwyd
Darren Osborne
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Darren Osborne yn byw yn ardal Pentwyn yng Nghaerdydd

Mae dyn o Gaerdydd wedi pledio'n ddieuog i lofruddiaeth a cheisio llofruddio yn dilyn ymosodiad Finsbury Park yn Llundain.

Mae Darren Osborne, 48, wedi'i gyhuddo o yrru fan yn fwriadol i mewn i dorf o addolwyr Mwslimaidd yn y digwyddiad ym mis Mehefin eleni.

Roedd yn ymddangos yn y llys trwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh yn ne-ddwyrain Llundain.

Dyma'r tro cyntaf i Mr Osborne, oedd yn byw yn ardal Pentwyn yng Nghaerdydd, gyflwyno ple i'r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Bu farw dyn 51 oed o ogledd Llundain, Makram Ali, ac anafwyd nifer yn yr ymosodiad yn orau mân bore 19 Mehefin.

Bydd ei achos yn dechrau yn Llys y Goron Woolwich ar 22 Ionawr.